Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn dechrau ar ei “gyfnod mwyaf heriol” wrth geisio ymdopi â’r pandemig a rhestrau aros, meddai’r prif weithredwr.

Dywedodd Dr Andrew Goodall bod y gwasanaeth iechyd yn trin pobol â Covid-19, ond yn ymdrin ag argyfyngau eraill ac apwyntiadau hefyd.

Dywedodd fod y niferoedd yn yr ysbyty gyda Covid yn parhau ar lefel “sylweddol”.

Ar hyn o bryd, mae yna fwy o bobol nag erioed yn aros am lawdriniaethau yng Nghymru gyda dros 600,000 ar y rhestr.

Mae adrannau brys ac adrannau damweiniau dan bwysau hefyd, ac mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gorfod galw ar gefnogaeth y fyddin am y trydydd tro yn ystod y pandemig.

“Heriol”

Dywedodd Dr Andrew Goodall wrth raglen Today Radio 4: “Dw i’n meddwl ei bod hi’n gywir i ddweud bod hwn yn teimlo fel y cyfnod mwyaf heriol.

“Rydyn ni dal i ymateb i’r coronafeirws, mae gennym ni niferoedd sylweddol yn ein system o hyd, mae gennym ni lefel uchel ohono yn y gymuned, a, thra bod nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai yn dipyn is nag rydyn ni wedi’i weld dros yr ugain mis diwethaf, mae dal yn golygu bod gennym ni gleifion sy’n cael eu heffeithio gan lot o ragofalon rydyn ni’n eu cymryd o fewn ein hysbytai a lleoliadau gofal iechyd.

“Ond y peth mawr sydd wedi newid dros y tri, pedwar mis diwethaf yn arbennig yw’r adfer mewn gweithgarwch oherwydd mae staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol eisiau sicrhau bod cleifion yn cael gofal a thriniaeth.

“Rydyn ni wedi gweld misoedd lle mae niferoedd uchel, os nad y niferoedd uchaf erioed, o gleifion yn dod mewn i’n system o ambiwlansys i’r adrannau brys, ac wrth gwrs rydyn ni wedi bod eisiau ailddechrau llawdriniaethau sydd wedi’u cynllunio.

“Mae’r niferoedd yn codi, ac rydyn ni’n fwy prysur nag ydyn ni wedi bod yn yr ugain mis diwethaf ar hyn o bryd, mae’n debyg.”

Effaith penderfyniadau 2020

Ym mis Awst, treuliodd 68.7% o gleifion lai na phedair awr mewn adrannau gofal brys cyn cael eu derbyn i’r ysbyty, eu symud neu eu rhyddhau – sydd dipyn is na’r targed o 95%.

Roedd rhaid i bron i 8,000 o bobol aros yn hirach na deuddeg awr.

Fis diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod galwadau’r Ceidwadwyr i ddatgan argyfwng yn y gwasanaeth ambiwlans yn sgil cynnydd mewn galw ac amseroedd aros.

Dangosodd ymchwil gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod criwiau ambiwlans yn wynebu oedi hir tu allan i ysbytai cyn i gleifion gael eu trosglwyddo i adrannau brys.

“Rydyn ni wedi cael ein heffeithio gan y penderfyniadau y gwnaethon ni yn ôl yng ngwanwyn 2020 i gamu’n ôl a sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn barod,” meddai Dr Andrew Goodall wrth drafod amseroedd aros am lawdriniaethau wedi’u trefnu.

“Mae ein rhestrau aros wedi bod yn cynyddu tua 3% y mis, mae’n debyg, ar y pwynt hwn. Mae’n debyg i’r cynnydd sydd wedi’i weld yn y system yn Lloegr.

“Cyn dod i’r pandemig roedd gennym ni rai problemau gydag amseroedd aros, ac rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar weithredu i wella hynny ac mae buddsoddiad sylweddol wedi bod [yn y maes].

“Wrth i ni adael y pandemig rydyn ni wedi bod yn glir, os ydyn ni’n edrych ar y niferoedd sydd gennym ni ar y funud, gallai gymryd tymor llywodraeth cyfan i glirio’r rheiny.”

Mae cleifion yng Nghymru sy’n aros am lawdriniaeth bum gwaith yn fwy tebygol na’r rhai yn Lloegr o orfod aros mwy na blwyddyn am driniaeth.

Wrth ymateb i’r ffaith hynny fe ddywedodd Dr Goodall ei bod yn hanfodol gwneud mwy i wella mynediad at ofal.

“Rydym wedi cael gormod o gleifion sydd ddim yn gallu cael mynediad i’n gwasanaethau,” meddai.

“Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau y gallwn gyflymu’r mynediad at ofal a sicrhau bod gennym gynlluniau eraill.”

Cyfuniad o broblemau

Mae Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Rusell George, wedi ymateb drwy ddweud bod diffygion y Gwasanaeth Iechyd yn destun cywilydd.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n iawn i ddweud ei fod yn wynebu ei gyfnod mwyaf heriol – gallwn weld hyn yn ei amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf erioed, y rhestr aros hwyaf erioed, a’r ail amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf,” meddai.

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru “yn gwrando ar ei arbenigedd ym maes iechyd pan fydd yn dod yn ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru ymhen ychydig fisoedd.”

Bydd Dr Goodall yn gadael ei swydd o fewn y misoedd nesaf ac dod yn Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, y swydd uchaf yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Dwy ambiwlans yn gadael Ysbyty Glangwili

Oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn “rhwystro’r gwaith o roi gofal ymatebol, diogel ac urddasol”

Er hynny, daeth adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i’r casgliad bod cleifion yn gadarnhaol am eu profiadau â chriwiau ambiwlans