Mae oedi “rheolaidd” y tu allan i adrannau brys wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys yn “rhwystro’r gwaith o roi gofal ymatebol, diogel ac urddasol”, meddai adolygiad newydd.

Cafodd ‘Adolygiad o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth Aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal’ ei gyhoeddi Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru heddiw (7 Hydref).

Yn ôl yr adolygiad, mae profiadau cleifion gyda chriwiau ambiwlans yn gadarnhaol, ond mae’r oedi, a’r ffaith bod prosesau yn amrywio rhwng byrddau iechyd a thu mewn iddyn nhw, yn cael effaith niweidiol ar allu’r system i roi gofal effeithiol.

Bu’n rhaid i griwiau ambiwlans aros dros awr i drosglwyddo cleifion ar 32,699 achlysur yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 – gyda thua’u hanner nhw dros 65 oed.

Sail y problemau oedd tagfeydd mewn adrannau brys yn sgil problemau wrth drosglwyddo pobol i wardiau gan fod diffyg gwelyau.

Er hynny, roedd cleifion yn gadarnhaol am eu profiadau â chriwiau ambiwlans, yn enwedig o ran eu caredigrwydd, eu cyfathrebu, a’u ffordd o reoli sefyllfaoedd.

Daw hyn wrth i’r fyddin gael eu gyrru i gefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda’r galw.

Anghysondebau

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddarganfod bod hanner y bobol wnaeth ymateb i arolwg cyhoeddus wedi aros llai nag awr i ambiwlans eu cyrraedd, gyda’r rhan fwyaf yn aros llai na hanner awr.

Fodd bynnag, arhosodd 26% o’r rhai ymatebodd rhwng awr a phedair awr, ac arhosodd 22% dros bedair awr.

Dywedodd pob un o’r rhai arhosodd dros bedair awr bod eu cyflwr wedi gwaethygu yn sgil hynny.

Noda’r adolygiad bod prosesau trosglwyddo gofal mewn adrannau brys yn cael eu haddasu am nifer o resymau gan gynnwys cynllun adrannau, gwahaniaethau o ran rôl staff, a phrinder staff, er bod canllawiau a disgwyliadau clir i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Gwelodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru anghysondebau o ddydd i ddydd mewn adrannau brys, yn ogystal â diffyg eglurder ymhlith staff y Gwasanaeth Ambiwlans a staff yr adrannau brys ynghylch pwy sy’n gyfrifol am glaf cyn iddo gael ei drosglwyddo i’r adran.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru’n dweud y gall anghysondebau o’r fath beri risg, a chael effaith niweidiol ar ofal a diogelwch cleifion, felly mae angen rhoi sylw i’r mater.

Mewn rhai byrddau iechyd mae rolau newydd wedi’u creu gyda’r nod o wella prosesau trosglwyddo gofal, ac mae’r Arolygiaeth yn credu y dylai pob bwrdd iechyd ystyried gwneud hynny.

Mae gwaith ar y gweill eisoes i wella’r sefyllfa, ond mae’r Arolygiaeth yn dweud ei bod hi’n glir bod angen i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru wneud mwy o welliannau i fynd i’r afael â’r heriau.

Maen nhw wedi annog hynny drwy ofyn am ymateb ar y cyd i’r argymhellion yn yr adolygiad.

“Gwaith sylweddol”

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei bod hi’n “amlwg bod ymrwymiad staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a staff adrannau achosion brys wedi parhau i arwain at brofiadau cadarnhaol i gleifion, er gwaethaf heriau’r pandemig”.

“Fodd bynnag, mae angen gwneud gwaith sylweddol ar y cyd er mwyn datrys yr oedi hir wrth drosglwyddo gofal, sy’n un agwedd ar y problemau ehangach sy’n ymwneud â llif cleifion ym mhob rhan o Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Rwy’n disgwyl i’r argymhellion sy’n deillio o’r adolygiad hwn gael eu datblygu ar y cyd â gwaith arall sy’n mynd rhagddo yn y maes, ac yng nghyd-destun y gwaith hwn, er mwyn sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen.”

“Cydnabod graddfa’r heriau”

Wrth ymateb i ganfyddiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dywedodd llefydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “cydnabod graddfa’r heriau hyn a’r effaith ar staff a chleifion”.

“Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am wella amseroedd trosglwyddo cleifion o ambiwlansys ac rydyn ni’n disgwyl eu gweld nhw’n gwneud gwelliannau yn y maes.

“Mae ystod eang o gamau mewn lle yn barod, gan gynnwys recriwtio clinigwyr ambiwlans ychwanegol, creu canolfannau gofal sylfaenol brys, a rhaglen genedlaethol newydd i helpu pobol i ddychwelyd adre o’r ysbyty pan maen nhw’n barod.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi £25 miliwn mewn cyllid rheolaidd hefyd.”

Y fyddin

Rhwng 14 Hydref a diwedd Tachwedd bydd 110 o staff y fyddin yn gweithio fel gyrwyr ambiwlansys mewn achosion sydd ddim yn rhai brys.

Dyma’r drydedd tro ers dechrau’r pandemig i weithwyr y fyddin helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.

Fydden nhw ond yn ymateb i alwadau sydd ddim yn rhai brys, er mwyn caniatáu i weithwyr ambiwlansys ymdrin ag argyfyngau.

Dywedodd prif weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Jason Killens: “Rydyn ni’n falch ac yn ddiolchgar o fod yn gweithio ochr yn ochr â’r fyddin unwaith eto, a wnaeth waith gwych yn cynorthwyo ni ar ddau achlysur blaenorol llynedd.

“Mae’r pandemig wedi cyflwyno her heb ei thebyg, ond mae’r ychydig fisoedd diwethaf yn arbennig wedi golygu pwysau parhaus a sylweddol ar ein gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys lefelau uchel o alw a chynnydd mewn gweithgarwch yn gysylltiedig â Covid-19.

“Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf a bydd cael cydweithwyr o’r fyddin gyda ni unwaith yn gwella ein capasiti, ac yn rhoi ni yn y sefyllfa orau bosib i gynnig gwasanaeth diogel i bobol Cymru.”

Amseroedd aros mewn adrannau brys a rhestrau aros am driniaethau iechyd yn hirach nag erioed

Yn ôl yr ystadegau, ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr roedd yr amseroedd aros mewn adrannau brys ar eu gwaethaf
Ambiwlans

Rhybuddio bod bywydau cleifion yn y fantol oherwydd dirywiad sydyn mewn gwasanaethau Iechyd a Gofal

BMA Cymru wedi ysgrifennu at Weinidog Iechyd Cymru yn galw am wneud newidiadau radical i’r system