Mae Jack Sargeant, AoS Llafur dros Alyn a Glannau Dyfrdwy, wedi dweud iddo ddioddef casineb ar-lein oedd yn cyfeirio at hunanladdiad.

Mae’r aelod yn fab i’r diweddaraf Aelod o’r Senedd, Carl Sargeant, a fu farw drwy hunanladdiad yn 2017.

Buodd Carl Sargeant yn cynrychioli etholaeth Alyn a Glannau Dyfrdwy rhwng 2003-2017 ac yn Weinidog Cymunedau a Phlant cyn cael ei ddiswyddo o Lywodraeth Carwyn Jones yn dilyn honiadau am ei ymddygiad.

Rheoleiddio

Fe ddywedodd Jack Sargeant fod camdriniaeth ar-lein yn beth “cyffredin iawn” a bod angen rheoleiddio platfformau cyfryngau cymdeithasol.

“Meddyliwch am hynny, fyddech chi’n mynd i ddweud hynny wrth unrhyw un arall?”, meddai Jack wrth bodlediad BBC Walescast.

“Efallai ei fod yn waeth oherwydd fy mod i’n wleidydd – rwy’n haeddu craffu ond dydw i ddim yn haeddu cael fy ngham-drin fel hynny.

“Felly rwy’n credu bod angen i’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy, oherwydd nid mewn gwleidyddiaeth yn unig [y gwelwn hyn], rydym wedi gweld [hyn yn digwydd i] bêl-droedwyr – mae Marcus Rashford yn enghraifft berffaith o hynny.

“Rydw i wedi gweld pobl eraill yn dioddef, boed yn Twitter, neu Instagram neu lwyfannau amrywiol eraill.”

Cefndir

Y llynedd, roedd dynion yn cyfrif am bron i 80% o’r rhai a gymerodd eu bywyd eu hunain yng Nghymru.

Ac mae hyn yn “ein hatgoffa’n llwyr faint yn fwy o waith sydd angen ei wneud i wella’r gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai sy’n delio ag iechyd meddwl gwael,” meddai Jack Sargeant.

Yn dilyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Sul (Hydref 10) fe ddywedodd ar wefan Deeside.com ei fod yn ystyried ei hun yn “un o’r 25% o bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl, ac mae pawb yn profi cyfnodau anodd ac anrhagweladwy yn eu bywyd.”

Mae eisoes wedi pwyso ar lawr y siambr ar bobl i ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl gan gyfeirio at gyfnod personol yn ystod y cyfnodau clo.