Mae’r pwysau’n cynyddu ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i’w hymateb i bandemig y coronafeirws.
Daw hyn wrth i fudiadau megis Asthma UK a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru ymuno â’r alwad am gynnal ymchwiliad.
Ddoe (dydd Mercher, 12 Hydref) dywedodd Gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, ei bod yn “barod i ymddiheuro” am unrhyw fethiannau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.
Mae Plaid Cymru, yn ogystal â’r Ceidwadwyr Cymreig, eisoes wedi galw am ymchwiliad sy’n benodol i Gymru.
“Cyfrifoldeb”
Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth y Cenhedloedd Datganoledig yn Asthma UK: “Cymaint ag yr ydym am edrych i’r dyfodol ac adfer o’r 18 mis diwethaf, mae angen i ni hefyd geisio cael atebion i deuluoedd a gollodd anwyliaid yn sgil camgymeriadau ein Llywodraeth.
“Roedd yr adroddiad gan ASau i’r ymateb i Covid yn tynnu sylw at oedi a gwallau, ond ni wnaeth y pwyllgor edrych ar y camau a gymerwyd yn unigol gan Gymru.
“Mae angen craffu ar benderfyniadau sy’n ymwneud â gofal a thriniaeth y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yma yng Nghymru.
“Yr ydym yn dal i weld sgil-effeithiau methiannau Llywodraeth Cymru, megis oedi gwasanaethau … a phrinder staff.
“Bydd ymchwiliad sy’n benodol i Gymru yn canfod pam yr oedd cyfathrebu rhwng Llundain a Chymru mor wael.
“Mae grym datganoledig yn dod gyda chyfrifoldeb datganoledig.
“Ymchwiliad sy’n benodol i Gymru yw’r unig ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.”
Deiseb
Mae deiseb sy’n galw am gynnal ymchwiliad penodol i Gymru wedi denu 1,088 o lofnodion hyd yma.
“Cafodd llawer o anwyliaid eu heintio â Covid-19 mewn ysbytai a chartrefi gofal yng Nghymru,” meddai testun y ddeiseb.
“Roedd cyfarpar diogelu personol yn brin, ni phrofwyd staff oni bai iddynt ddangos symptomau Covid-19, roedd y camau a gymerwyd i awyru ystafelloedd yn ddiffygiol, a rhoddwyd cleifion Covid-19 ar wardiau nad oeddent wedi’u bwriadu ar eu cyfer.
“Anfonwyd llawer o gleifion adref heb iddynt gael eu hailbrofi; aethant ymlaen i ledaenu’r haint yn y gymuned cyn iddynt farw.
“Roedd hysbysiadau ‘na cheisier dadebru’ yn gysylltiedig â nifer o gleifion heb ymgynghoriad. Roedd cyfathrebu’n wael os oedd yn digwydd o gwbl.
“Yn bendant, ni ddysgwyd y gwersi perthnasol.
“Dylid craffu yng Nghymru ar y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru a effeithiodd ar bobol Cymru.”
“Dull mwy gofalus”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir y dylai’r ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig gwmpasu’n llawn yr holl benderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru.
“Cymerwyd rhai camau gweithredu a phenderfyniadau yn yr ymateb pandemig ar lefel y Deyrnas Unedig ar sail pedair gwlad – rydym bob amser wedi bod yn agored i gydweithio lle mae penderfyniadau a rennir ac ymatebion a rennir.
“Ein cyfrifoldeb ni yw i bobol yng Nghymru ac i warchod bywydau a bywoliaeth pobol.
“Rydym wedi dilyn cyngor ein cynghorwyr meddygol a gwyddonol ac wedi mabwysiadu dull mwy gofalus.
“Mae adroddiadau annibynnol, gan Archwilio Cymru, wedi dangos bod ein dull o brofi, er enghraifft, yn llai costus ac yn fwy effeithlon na’r hyn a gymerwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn parhau i ddysgu mwy am coronafeirws wrth i dystiolaeth newydd ddod i’r amlwg am y feirws hwn o bob cwr o’r byd.”