Mae Sefydliad y Merched a Joyce Watson AoS yn galw ar ddynion a bechgyn i wneud safiad yn erbyn trais gan ddynion tuag at fenywod.

Daw eu galwadau cyn lansiad ymgyrch ‘Nid yn fy Enw i’, sef ymgyrch flynyddol a gafodd ei lansio gan y Sefydliad yng Nghymru a Joyce Watson, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer y Blaid Lafur, yn 2012.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys recriwtio llysgenhadon gwrywaidd i herio’r agweddau a’r ymddygiad sy’n arwain at drais yn erbyn menywod, a gwneud addewid y Rhuban Gwyn i ‘beidio byth â chyflawni, esgusodi nac anwybyddu trais gan ddynion yn erbyn menywod’.

Dros y blynyddoedd, mae’r ymgyrch wedi denu cefnogaeth gan gorau meibion a chlybiau chwaraeon dros Gymru, tîm hoci iâ Diawled Caerdydd, Undeb Rygbi Cymru, Criced Morgannwg, a’r rhedwr Christian Malcolm.

Bydd ymgyrch 2021 yn cael ei lansio ddydd Llun (18 Hydref), gyda digwyddiad ar-lein yn canolbwyntio ar effaith trais ar sail rhywedd ar blant a phobol ifanc.

I nodi’r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd, a fydd yn rhedeg o 25 Tachwedd i 10 Rhagfyr, bydd digwyddiad trawsbleidiol i randdeiliaid digwydd ar-lein ar 22 Tachwedd.

Wedi hynny, bydd gwylnos yng ngolau cannwyll ar risiau’r Senedd, i gydsefyll â dioddefwyr trais yn erbyn menywod dros y byd.

“Endemig”

Mae trais yn erbyn menywod yn “endemig ledled y byd”, meddai Eirian Roberts, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru.

“Mae digwyddiadau trasig, fel llofruddiaethau diweddar Sabina Messa a Sarah Everard, wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud llawer mwy i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben fel bod menywod yn gallu byw eu bywydau yn rhydd o ofn, trais, aflonyddu a cham-drin,” meddai Eirian Roberts.

“Mae rhaid i ddynion fod yn rhan o’r ateb. Mae ymgysylltu dynion a bechgyn yn hanfodol er mwyn herio’r anghydraddoldebau a’r agweddau sy’n cyfrannu at drais yn erbyn menywod.

“Gall dynion fod yn asiantau newid a chwarae rhan fel modelau rôl positif i helpu ni i gyflawni newid mewn diwylliant lle nad yw cymdeithas yn goddef trais yn erbyn menywod.”

“Ymddygiad ffiaidd”

Dywedodd Joyce Watson ei bod hi’n “annog dynion i gamu fyny a siarad allan nawr yn fwy nag erioed”.

“Roedd llofrudd Sarah Everard yn arddangos ymddygiad ffiaidd ymhell cyn ei llofruddiaeth. Er i lawer geisio gweithredu ar hyn, roedd yn dal wedi medru parhau i lawr ei lwybr,” meddai Joyce Watson.

Ddoe dywedodd Emma Wilson, cyflwynydd radio ar Magic FM, bod Wayne Couzens wedi arddangos ei hun iddi heb ganiatâd yn ne-ddwyrain Llundain yn 2008.

Dywedodd wrth Radio 4 ei bod hi wedi’i adnabod pan welodd luniau ohono ar adroddiadau newyddion, a dywedodd bod Heddlu’r Metropolitan wedi chwerthin pan wnaeth hi adrodd am y drosedd y tro cyntaf.

Maen nhw’n ymchwilio i’r gwyn nawr.

Mae’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu’n edrych ar sut wnaeth Heddlu’r Metropolitan fynd i’r afael â thri chyhuddiad arall bod Wayne Couzens wedi arddangos ei hun heb ganiatâd hefyd.

Doedd llofruddiaeth Sarah Everard ddim yn ddigwyddiad “ynysig”, meddai Joyce Watson.

“Mae o leiaf 112 o fenywod yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu lladd gan ddynion hyd yma eleni,” meddai, gan gyfeirio at ystadegau sydd wedi’u casglu gan Karen Ingala Smith ynghylch nifer y menywod sydd wedi’u lladd gan ddynion, neu lle mai dyn yw’r prif un sydd dan amheuaeth.

“Mae llysgenhadon gwrywaidd yn chwarae rhan enfawr mewn newid agweddau, ac rwy’n annog mwy i ddod ymlaen i helpu i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.”

“Brawychus”

Bydd ymgyrch ‘Nid yn fy Enw i’ eleni’n derbyn cefnogaeth tîm Diawled Caerdydd eto, a dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn codi ymwybyddiaeth yn eu gemau cartref.

“Mae pa mor aml mae trais yn erbyn menywod yn digwydd yn frawychus ac yn annerbyniol,” meddai Todd Kelman, Rheolwr Gyfarwyddwr Diawled Caerdydd.

“Mae Cardiff Devils/Diawled Caerdydd yn falch unwaith eto i addo eu cefnogaeth i’r ymgyrch ‘Nid yn fy Enw i’ ac i alw am ddiwedd i drais yn erbyn menywod.”