Mae Cefin Campbell AoS, Llefarydd Materion Gwledig Plaid Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth i fartiau amaethyddol – a hynny er lles iechyd meddwl ffermwyr.

Mae’r aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud bod y mart yn cynnig cyfleodd i ffermwyr fynd rhywle i gymdeithasu, ac yn sgil hynny’n fuddiol i Iechyd meddwl gweithwyr amaeth.

Fe gododd Cefin Campbell yr achos gyda’r Gweinidog materion Gwledig, Lesley Griffiths ar lawr y siambr heddiw (Hydref 13).

“Mae 84% o ffermwyr dan 40 oed yn dweud mai materion iechyd meddwl yw’r her anweledig fwyaf i ffermio yng Nghymru,” meddai.

“Yn ôl eu natur mae cymunedau gwledig yn rhai diarffordd ac ynysig iawn, ac oherwydd diffyg cyfleoedd pobl i gwrdd o ddydd i ddydd mae tuedd aml i bobl ddioddef ynysu cymdeithasol gyda phroblemau iechyd meddwl yn deillio o hynny.”

“Mae adroddiad sydd wedi ei hysgrifennu gan Gronfa Cefn Gwald Tywysog Cymru eisoes wedi amlinellu sut y gall martiau sicrhau dyfodol llewyrchus i gymunedau a ffermwyr fel man mae pobl yn gallu mynd i gymdeithasu.”

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae 133 o bobl yn gweithio yn y sector amaeth yn marw trwy hunanladdiad yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Y Pandemig a ffermwyr

Wrth ymateb fe wnaeth y gweinidog gydnabod fod y pandemig wedi uwcholeuo problemau Iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

“Mae cymunedau Cefn Gwlad yn gymunedau agos tu hwnt, ac mae’r pandemig wedi uwcholeuo’r broblem yn enwedig yn ystod y pandmeig,” meddai Lesley Griffiths AoS.

“Mae arweinwyr pob un elusen amaeth wedi dweud wrthyf fod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl ffermwyr.

“Ac eisoes mae yna fuddsoddiad sylweddol wedi i’w rhoi i wasanaethau fel DPJ yn benodol hefyd ar gyfer martiau.

“Maen nhw wedi edrych ar ffyrdd i gynnig hyfforddiant i adnabod symptomau Iechyd meddwl mewn lleoliadau fel marchnadoedd amaeth.”

Mae elusen DPJ wedi ei sefydlu yn Sir Benfro ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones.