Mae barnwr wedi beirniadu bwrdd iechyd wnaeth “esgeuluso” anghenion claf gyda chyflyrau iechyd meddwl.
Dywedodd y Barnwr Hayden bod “cymaint” wedi mynd o’i le ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ni chafodd anghenion y dyn eu “cydnabod” na’u “hadnabod”, ac ni aeth y Bwrdd Iechyd i’r afael â nhw, meddai.
Fe wnaeth y barnwr y sylwadau heddiw (13 Hydref) ar ôl ystyried achos y dyn mewn gwrandawiad yn Llundain yn y Llys Gwarchod – ble mae materion yn ymwneud â phobol sydd heb y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau’n cael eu clywed.
Dywedodd na allai’r dyn gael ei enwi gan y wasg.
Yr achos
Aeth y dyn, sydd yn ei 40au, i’r ysbyty ym mis Ionawr 2020, meddai’r Barnwr.
Yn ôl y barnwr, roedd y dyn i fod yno dros dro, ond arhosodd yn yr ysbyty.
Dywedodd bod y Bwrdd Iechyd wedi torri gorchmynion llys, a siaradodd am “fethiannau sylweddol a brawychus”.
Cafodd “samplau” eu cymryd yn erbyn ewyllys y dyn, meddai, ac awgrymodd bod y dyn wedi cael ei ddal yn gorfforol pan gafodd samplau gwaed eu cymryd.
“Mae yna ddiffyg pwyslais wedi bod ar hawliau sylfaenol [y dyn],” meddai’r Barnwr Hayden.
“Roedd yn amharu ar ei urddas dynol.”
“Dechreuad newydd”
Fe wnaeth prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead, ymddiheuro i’r barnwr yn y gwrandawiad a dywedodd bod gwelliannau wedi cael eu gwneud.
Ychwanegodd y Barnwr ei fod am weld “dechreuad newydd”.
Dydi’r dyn heb allu gadael yr ysbyty eto, ond dywedodd bod cynlluniau ar y gweill i’r symud i lety newydd.
Roedd cyfreithwyr ar ran y Bwrdd Iechyd wedi dadlau na ddylid cyhoeddi enw’r bwrdd, ond roedd y Barnwr yn anghytuno.
“Mae’n rhaid iddyn nhw gael eu dal yn atebol.”