Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu penderfyniadau ynghylch ystod bynciau TGAU er mwyn mynd ati i gyd-greu cymwysterau newydd.
Maen nhw’n lansio sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cymwysterau, a bydd rhaglen, Cymwys ar gyfer y Dyfodol, yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno cwricwlwm newydd Cymru gyda chymwysterau addas.
Gyda chymwysterau wedi cael eu hasesu yn wahanol yn sgil y pandemig, mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch diben arholiadau TGAU, gyda undeb UCAC yn gofyn a ddylid cael gwared arnyn nhw.
Mae Cymwysterau Cymru am gydweithio a chlywed gan athrawon a gweithwyr addysgol proffesiynol cyn cyflwyno cynigion erbyn haf 2022.
Y bwriad yw y bydd y cymwysterau newydd yn barod i ddysgwyr yn 2025.
Newidiadau
Mae cytuno ar yr ystod o bynciau TGAU newydd yn nodi dechrau’r daith ddiwygio gyffrous, yn ôl Cymwysterau Cymru.
Bydd y cymwysterau TGAU newydd yn rhoi dewis o bynciau i ddysgwyr ac ysgolion, gan adlewyrchu ehangder y Cwricwlwm newydd, medden nhw.
Bydd llai o gymwysterau ar wahân mewn mathemateg, gwyddoniaeth ac ieithoedd yn “golygu bod mwy o le i ddysgwyr gael profiadau ehangach ar draws y cwricwlwm cyfan”.
Y Celfyddydau Mynegiannol – Bydd cymwysterau TGAU newydd mewn ‘Celf a Dylunio’, ‘Drama’, ‘Cerddoriaeth’, a ‘Ffilm a’r Cyfryngau Digidol’. Bydd cymhwyster ‘Dawns’ newydd hefyd.
Iechyd a Lles – Bydd cymwysterau newydd mewn ‘Bwyd a Maeth’, ‘Addysg Gorfforol’, ac ‘Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant’.
Dyniaethau – Bydd cymwysterau newydd mewn ‘Busnes’, ‘Daearyddiaeth’, ‘Hanes’, ‘Astudiaethau Crefyddol’, ac ‘Astudiaethau Cymdeithasol’.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Bydd TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg integredig newydd. Ceir cymwysterau newydd mewn ‘Ffrangeg’, ‘Almaeneg’ a ‘Sbaeneg’, a bydd set newydd o gymwysterau bach mewn amrywiaeth o ieithoedd rhyngwladol er mwyn annog ymgysylltu ehangach â dysgu iaith. Fe fydd cymhwyster ‘Iaith Arwyddion Prydain’ newydd wedi’i anelu at ddysgwyr oedran ysgol hefyd.
Y Gymraeg – Bydd hyn yn cael ei gadarnhau ym mis Ionawr 2022, a bydd Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i adolygu eu cynigion gwreiddiol ochr yn ochr ag opsiynau posibl eraill.
Mathemateg – Bydd TGAU ‘Mathemateg a Rhifedd’ integredig newydd, a dau gymwyster ychwanegol y gellir eu cymryd yn ychwanegu at y TGAU.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Bydd cymhwyster dyfarniad dwbl TGAU Gwyddoniaeth integredig yn dod i rym, a bydd cymwysterau newydd mewn ‘Cyfrifiadureg’, ‘Amgylchedd Adeiledig’, ‘Dylunio a Thechnoleg’, ‘Technoleg Ddigidol’, a ‘Pheirianneg a Gweithgynhyrchu’ hefyd.
Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau gyfredol yn cael ei disodli gan gymhwyster symlach i asesu ‘Creadigrwydd ac Arloesedd’, ‘Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau’, ‘Effeithlonrwydd Personol’ a ‘Chynllunio a Threfnu’.
“Cyd-lunio”
Dywedodd y Prif Weithredwr, Philip Blaker: “Wrth gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Medi 2022, mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar sut y gallwn arloesi cymwysterau i baratoi dysgwyr i lwyddo mewn byd sy’n newid yn barhaus.”
“Rydym am weithio ar y cyd ag eraill i ailfeddwl a chyd-lunio cenhedlaeth gwbl newydd o gymwysterau TGAU. Rydym am i bawb – dysgwyr, athrawon, darlithwyr, cyflogwyr a rhieni – helpu i ail-ddychmygu sut mae cymwysterau’n cael eu hasesu. Gyda chynnwys newydd ac asesiadau newydd yn canolbwyntio ar brofiadau a lles a fydd yn dod â’r cwricwlwm newydd yn fyw ac yn diwallu anghenion pob dysgwr.
“Rydym yn recriwtio athrawon a gweithwyr addysgol proffesiynol i’n helpu i lunio’r cymwysterau newydd. Bydd hon yn broses gydweithredol a chreadigol dros y misoedd nesaf i’n helpu i archwilio ac ail-ddychmygu’r berthynas rhwng y cwricwlwm, yr addysgu a’r asesu. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â ni wneud cais drwy ein gwefan.
“Dyma gyfle unigryw i greu cymwysterau arloesol, creadigol a chynaliadwy a fydd yn ymateb ac yn addasu i’r newidiadau cyflym rydym yn eu hwynebu mewn cymdeithas. Cymwysterau a fydd yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol.
“Mae meddwl a chynllunio hirdymor yn allweddol i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru yn cael profiad dysgwyr dyfnach a mwy penodol gyda lles a chydraddoldeb wrth wraidd ei galon.”