Mae Cyngor Tref Nefyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yng Nghynllun Datblygu Lleol Gwynedd.
Cafodd cynnig ei basio gan y cyngor ddoe (12 Hydref) er mwyn galw ar y Llywodraeth i atgyfnerthu’r cynllun fel ei fod yn “cynnig gwarchodaeth i broffil ieithyddol sensitif Gwynedd”.
Fis Mehefin, fe wnaeth Cyngor Gwynedd bleidleisio’n unfrydol dros gynnig i adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol.
Fe wnaeth mwyafrif aelodau Cyngor Gwynedd alw am weithredu newidiadau i’r Cynllun Datblygu Lleol eto ym mis Awst, wedi i 47 cynghorydd ysgrifennu at y Cabinet yn galw am addasiadau penodol.
Roedd y llythyr hwnnw’n cyfeirio at bethau y gellir eu gwneud ar unwaith, ac roedd yn galw ar y Cabinet i ddynodi Gwynedd yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol.
Ymyrryd ac atgyfnerthu
Gallai gymryd hyd at dair blynedd a hanner i newid y Cynllun Datblygu Lleol, ac i wneud hynny mae angen adolygiad.
Mae’r adolygiad yn ddibynnol ar Adroddiad Monitro, sy’n cael ei wneud yn flynyddol gan swyddogion Cyngor Gwynedd.
Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig ni chafodd un ei gynnal ar gyfer Mawrth 2020-21, ond roedd pob un o 65 dangosydd Adroddiad Monitro Mawrth 2019-20 yn datgan “nad oes angen newid” i’r Cynllun, er gwaetha’r argyfwng tai.
O ganlyniad i hynny, mae Cyngor Tref Nefyn yn galw “ar y Llywodraeth i ymyrryd yn y Cynllun a’i atgyfnerthu fel ei fod yn cynnig gwarchodaeth i broffil ieithyddol sensitif Gwynedd ac yn cydymffurfio â nod Deddf Llesiant o sicrhau bod ‘Diwylliant a’r Gymraeg yn ffynnu’.”
“Rydyn ni’n rhwystredig iawn bod yna alw am newid y Cynllun Datblygu gan gynghorwyr ar lefel y sir, ond er gwaethaf hynny mae’r Cynllun Datblygu a’i newid o’n ddibynnol ar adolygiad,” meddai Rhys Tudur, Cadeirydd Cyngor Tref Nefyn wrth golwg360.
“Mae 65 o’r dangosyddion yn dweud nad oes angen newid i’r cynllun, ac oherwydd eu bod nhw’n ddiffygiol maen nhw’n niweidio cymunedau a’r iaith Gymraeg achos eu bod nhw ddim digon gwarchodol ohoni, mae’n golygu bod rhaid ei newid os ydyn ni am gadw’r Gymraeg yn fyw, ac adlewyrchu’r ffaith ein bod ni bellach mewn ardal o sensitifrwydd ieithyddol.
“Mae angen cael polisïau cynllunio wedi’u hatgyfnerthu ymhellach.
“Oherwydd bod yna amharodrwydd i gydnabod gwendidau’r cynllun ar lefel y Sir, o ran yr Adroddiadau Monitro, rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i ymyrryd yn y cynllun.”
“Argyfyngus”
“Rydyn ni’n gweld hi mor ddrwg ar ein cymunedau, mor argyfyngus, ac er hynny mae’r holl sgorfyrddau ar gyfer ein cynllun datblygu’n dweud bod dim angen ei newid,” meddai Rhys Tudur.
“Mae’n sicr angen ei newid, a’i atgyfnerthu fo. Ac oherwydd bod yr adroddiadau ddim yn cadarnhau hynny, ac yn adroddiadau anaeddfed, yn fy marn i, maen nhw angen eu newid.
“Mae gen ti gynghorwyr eisiau gweld newid, rhan fwyaf ohonyn nhw, ond dydyn nhw methu’i newid oherwydd bod yna broses adolygu fiwrocrataidd sy’n cymryd tair blynedd a hanner.
“Ar y funud rydyn ni mewn argyfwng, mae ein cymunedau ni’n gwanio’n ddiwylliannol ac ieithyddol.”
Dywedodd Rhys Tudur ei bod hi’n un cylch o geisiadau cynlluniau’n cael eu pasio, “gan nad oes neb i wybod yn well wrth graffu” ar geisiadau.
“Bydd canlyniad y sensws yn gwbl ddamniol bydd, be sy’n sobor ydi nad oes rhagweld hynny, a does yna ddim brwdfrydedd i ragweld y gwymp yn y siaradwyr a thrio lliniaru hynny drwy gryfhau polisi rŵan yn hytrach na wedyn.
“Mae’r adroddiadau monitro yma jyst yn dweud bod pob dim yn iawn, pan does yna ddim byd yn iawn.”
“Achosi niwed”
Mae Cyngor Tref Nefyn wedi pasio dau gynnig arall hefyd, gan gynnwys gofyn am newid cymal 3a ym Mholisi Strategol cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol.
Ar y funud, mae’n dweud: “Gwrthod cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.”
Galwa Cyngor Tref Nefyn am ei newid i: “Gwrthod cynigion fyddai yn achosi niwed i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”, a hynny er mwyn i’r Cynllun allu gwireddu ei fwriad o “gyfrannu a chreu mwy o gymunedau gyda 70% o siaradwyr Cymraeg yn hytrach na gwneud niwed.”
“Fedri di wneud niwed a’i liniaru fo mewn rhyw ffordd neu ei gilydd,” meddai Rhys Tudur, gan ddweud bod datblygwyr yn codi stad o dai a defnyddio enw Cymraeg arnyn nhw fel ffordd o ‘liniaru’r’ effaith ieithyddol, er eu bod nhw wedyn yn rhoi’r tai ar y farchnad rydd.
Ymateb Cyngor Gwynedd
Wrth ymateb i sylwadau Cyngor Tref Nefyn, dywedodd Cyngor Gwynedd bod ystyriaeth o’r iaith Gymraeg “wedi bod yn ganolog” i’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
“Mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi bod yn cael ei fonitro ers ei fabwysiadu’n 2017, gydag Adroddiadau Monitro Blynyddol yn cael eu paratoi ers hynny yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
“Mae’r trefniadau ar gyfer paratoi Adroddiadau Monitro Blynyddol yn cynnwys asesu’r Cynllun yn erbyn fframwaith fonitro ac mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth.
“Erbyn hyn, mae dros 4 blynedd ers mabwysiadu’r Cynllun ac felly mae’n ofyn statudol i gychwyn ar y broses o adolygu’r Cynllun.
“Bydd y dystiolaeth o’r holl adroddiadau monitro blynyddol, unrhyw dystiolaeth o ran newidiadau ac ystyriaethau ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol yn bwydo i mewn i’r broses.
“Bydd gofyn i’r broses o adolygu’r Cynllun gydymffurfio gyda’r camau sy’n rhan o’r fframwaith cyfreithiol sydd wedi ei osod allan gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor eisoes wedi cychwyn ar y broses adolygu a bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn yn cael ei gynnal yn ystod Tachwedd / Rhagfyr eleni.
“Bydd y broses o Adolygu ac yna paratoi Cynllun Diwygiedig yn un gwbl agored, gyda chyfnodau o ymgynghoriadau cyhoeddus, a bydd yn gyfle i ail-edrych ar holl bolisïau’r Cynllun cyfredol, gan roi ystyriaeth i’r dystiolaeth ddiweddaraf.
“Mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd cyfredol yn gyson â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Pholisi Cynllunio Cymru.
“Mae ystyriaeth o’r iaith Gymraeg wedi bod yn ganolog i’r broses o baratoi’r Cynllun cyfredol sy’n cynnwys polisi cynllunio penodol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
“Yn ychwanegol i hyn mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy), yn cynnwys arweiniad manwl ar sut i roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg wrth ddelio gyda cheisiadau am ddatblygiadau newydd.”