Bydd Brenhines Lloegr yn bresennol yn agoriad seremonïol y Senedd yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau 14 Hydref).
Bydd y Tywysog Charles a’i wraig hefyd yn ymuno â hi ar ei hymweliad ag adeilad Senedd Cymru yng Nghaerdydd.
Dyma fydd ei hymweliad cyntaf â Chymru mewn pum mlynedd.
Roedd y digwyddiad i fod i gael ei gynnal yn fuan ar ôl yr etholiad ym mis Mai, ond cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig.
Bydd y Frenhines yn gwneud araith yn siambr y Senedd, ac yna ceir anerchiadau gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Llywydd y Senedd, Elin Jones.
Bydd hefyd gymysgedd o berfformiadau wedi’u recordio a pherfformiadau byw gan artistiaid o Gymru, gan gynnwys Eadyth Crawford a Lily Beau,ar y thema ‘Eich Llais’.
Dywedodd Mr Drakeford bod cael y Frenhines yn agor y Senedd yn “nodi arwyddocâd y Senedd” yn y genedl.
Dywedodd wrth Sky News: “Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn pedair senedd wahanol ac rwy’n gwybod bod y Frenhines bob amser wedi cymryd o ddifrif y gwaith y mae’n ei wneud wrth nodi hynny.
“Fel y dywedais, dyw hi erioed wedi colli agoriad tymor newydd yn y Senedd ac er gwaethaf yr amgylchiadau, a’i hoedran, bydd hi’n gwneud yr ymdrech honno eto heddiw.”
Bydd aelodau o’r teulu brenhinol hefyd yn cyfarch disgyblion o Ysgol Gynradd Mount Stuart o flaen y Senedd, lle bydd anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain yn cael eu chwarae, a bydd saliwt brenhinol yn cael ei roi gan y Llynges Frenhinol gyda Band y Môr-filwyr Brenhinol.
Bydd yr Opera Ieuenctid Genedlaethol – sydd heb berfformio’n fyw ers 18 mis oherwydd cyfyngiadau coronafeirws – yn perfformio Ar Lan y Môr.
Bydd arweinwyr pleidiau, aelodau o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru a phwysigion lleol sydd wedi cefnogi eu cymunedau yn ystod y pandemig hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â’r teulu brenhinol.
Bydd y byrllysg seremonïol yn cael ei gario i’r Senedd gan aelod o’r tîm diogelwch, Shahzad Khan, a’i osod yn ei le i ddynodi agoriad swyddogol y chweched Senedd.