Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwneud popeth y gallai i ddatrys problemau masnach ôl-Brexit yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl llysgennad y bloc i’r Deyrnas Unedig.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno cynnig i dorri 80% o wiriadau rheoleiddio a thorri prosesau’r tollau ar symud nwyddau, yn enwedig cynnyrch bwyd a ffermio, rhwng Prydain ac ynys Iwerddon.
Croesawodd Llywodraeth y Deyrnas unedig y cyhoeddiad nos Fercher (13 Hydref), gan nodi ei bod am gael “trafodaethau dwys” yn dilyn cynigion yr Undeb Ewropeaidd.
Ar yr un pryd, fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth bod yn rhaid cael “newidiadau sylweddol” i Brotocol Gogledd Iwerddon yng Nghytundeb Ymadael Brexit os am gael “setliad cadarn”.
Ond wrth siarad ar Newsnight ar BBC2, dywedodd y llysgennad Joao Vale de Almeida fod Brwsel eisoes wedi mynd y “filltir ychwanegol” ac na allai fynd ymhellach.
“Heddiw aethom i derfyn yr hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau Gogledd Iwerddon oherwydd ein bod yn gofalu am Ogledd Iwerddon. Brexit sydd wedi achosi y problemau hyn,” meddai.
Pwysleisiodd na all yr Undeb Ewropeaidd dderbyn yr alwad gan Brydain i ddileu rôl Llys Cyfiawnder Ewrop wrth oruchwylio’r protocol.
“Does dim marchnad sengl heb Lys Cyfiawnder Ewrop,” meddai.
Tir cyffredin?
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gynigion yr Undeb Ewropeaidd: “Rydym yn astudio’r manylion ac wrth gwrs byddwn yn edrych arnynt o ddifrif ac yn adeiladol.
“Y cam nesaf ddylai fod trafodaethau dwys ar ein dwy set o gynigion i benderfynu a oes tir cyffredin i ddod o hyd i ateb.
“Rhaid gwneud newidiadau sylweddol sy’n mynd i’r afael â’r materion sylfaenol sydd wrth wraidd y protocol, gan gynnwys llywodraethu, os ydym am gytuno ar setliad cadarn sy’n ennyn cefnogaeth yng Ngogledd Iwerddon.”
Mae cynllun yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys gostyngiad o 50% yn y gwaith papur tollau sydd ei angen i symud cynnyrch i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr.
Yn gyfnewid am hynny, mae’r bloc masnachu wedi gofyn am weithredu mesurau diogelu i roi sicrwydd ychwanegol nad yw cynhyrchion sydd i fod i gyrraedd Gogledd Iwerddon yn croesi’r ffin i Iwerddon.
Mae’r rheini’n cynnwys labelu rhai cynhyrchion, gan ei gwneud yn glir eu bod ar werth yn y Deyrnas Unedig yn unig, a gwell monitro symudiadau’r gadwyn gyflenwi a mynediad at wybodaeth am lif masnach amser real.
Llys Cyfiawnder Ewrop
Er y byddai’r ystod o fesurau’n mynd gryn ffordd i leihau ffrithiant bob dydd ar fasnach a achosir gan y protocol, nid ydynt yn mynd i’r afael â galw’r Deyrnas Unedig dros rôl Llys Cyfiawnder Ewrop (yr ECJ).
Mae gweinidog Brexit y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Frost, wedi egluro bod dileu swyddogaeth oruchwylio’r llys wrth blismona’r protocol yn hanfodol i’r Llywodraeth i daro cytundeb cyfaddawd.
O dan delerau’r protocol, y cytunwyd arno gan y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o Gytundeb Ymadael 2020, yr ECJ fyddai’r canolwr terfynol mewn unrhyw anghydfod masnach rhwng y ddwy ochr ar weithredu’r protocol yn y dyfodol.
Mae’r Deyrnas Unedig bellach am ddileu’r ddarpariaeth honno a rhoi proses annibynnol yn ei lle.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi mynnu na fydd yn symud ar fater yr ECJ.
Mae’r Arglwydd Frost wedi rhybuddio y gallai’r Deyrnas Unedig symud i atal rhannau o’r protocol, drwy sbarduno mecanwaith Erthygl 16, os na ellir dod i gyfaddawd derbyniol.
Cynigion a gwrthgynigion
Mae cynllun yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â chyfres o wrthgynigion mewn ymateb i restr ddymuniadau o ddiwygiadau i’r protocol a amlinellwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf.
Bydd y cynigion gan y ddwy ochr bellach yn sail i gylch newydd o drafodaethau rhwng Brwsel a Llundain yn yr wythnosau i ddod.
Cytunodd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar Brotocol Gogledd Iwerddon fel ffordd o osgoi’r rhwystr mawr yn y trafodaethau ar ysgariad Brexit – ffin tir Iwerddon.
Cyflawnodd hynny drwy symud gwiriadau a phrosesau rheoleiddio ac arferion i Fôr Iwerddon.
Mae’r trefniadau wedi creu rhwystrau economaidd newydd ar nwyddau sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae hyn wedi achosi aflonyddwch i lawer o fusnesau yng Ngogledd Iwerddon ac mae hefyd wedi creu problemau gwleidyddol sylweddol i’r Llywodraeth.
Nos Fercher (12 Hydref) croesawyd cynigion yr Undeb Ewropeaidd gan arweinwyr gwleidyddol Iwerddon, gyda Taoiseach Micheal Martin yn eu disgrifio fel “y ffordd amlwg ymlaen a’r ffordd amlwg allan o’r materion hyn”.
“Eu cytundeb nhw ydi e”
Wrth drafod y mater, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru wrth Sky News: “Mae’n fater pwysig iawn i Gymru gan fod ein porthladdoedd yn wynebu ynys Iwerddon ac mae masnach drwy ein porthladdoedd wedi gostwng yn sylweddol ar ôl Brexit.
“Rwy’n cael fy syfrdanu gan rai o’r pethau rwy’n ei glywed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Y cytundeb yw’r cytundeb y maen nhw eu hunain wedi ymrwymo iddi.
“Eu cytundeb nhw ydi e, ond eto mor aml rydym yn clywed gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn siarad fel petai’r cytundeb yn gyfrifoldeb i rywun arall yn llwyr.”
Dywedodd ei fod wedi cwrdd â Joao Vale de Almeida a bod cyhoeddiadau gan yr Undeb Ewropeaidd yn dangos “ymdrechion ymarferol i ddelio â’r problemau” sydd wedi digwydd ar ffin Iwerddon
“O safbwynt Cymru, yr hyn rydyn ni wedi wastad wedi gofyn amdano yw i bobol fod o gwmpas y bwrdd, i bobol fod yn bragmatig, i bobol fod yn chwilio am ble maen nhw’n gallu cytuno, yn hytrach na nodi llinellau coch yn gyson ynglŷn â lle nad ydyn nhw’n barod i gytuno.”