Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r swm sy’n cael ei wario ar athrawon cyflenwi.

Ers 2016, mae dros £250 miliwn wedi ei wario ar athrawon cyflenwi mewn ysgolion ledled Cymru, yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi cael eu canfod gan y blaid.

Caerdydd oedd wedi gweld y gwariant mwyaf – o gwmpas £57 miliwn – tra bod Caerffili y tu ôl iddyn nhw ar oddeutu £32 miliwn.

Doedd y ffigyrau ddim yn cwmpasu awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Conwy, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot na Sir Benfro – a wnaeth fethu ag ymateb i’r cais am wybodaeth.

Dywed y Ceidwadwyr bod maint yr arian trethdalwyr sydd wedi ei wario yn “hynod bryderus,” er bod athrawon cyflenwi yn angenrheidiol nawr fwy nag erioed.

Ffigyrau’n “dod â dŵr i’r llygaid”

Fe wnaeth Laura Anne Jones AoS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, ddweud bod angen mwy o athrawon llawn amser mewn ysgolion, er mwyn lleihau’r pwysau a’r angen am athrawon cyflenwi.

“Nid oes amheuaeth bod athrawon cyflenwi wedi bod yn achubiaeth fawr i ysgolion ledled Cymru gan eu bod wedi gorfod delio â phrinder staff oherwydd salwch a hunanynysu,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’r symiau sydd dan sylw yn dod â dŵr i’r llygaid, ac rwy’n siŵr y bydd trethdalwyr yn cwestiynu’r swm enfawr hwn o arian cyhoeddus.

“Mae’n ymddangos bod cynghorau’n dod yn or-ddibynnol ar y system athrawon cyflenwi sy’n hynod o ddrud, a rhaid i weinidogion Llafur wneud mwy i helpu ein hysgolion.

“Mae angen gwaith arnyn nhw i annog mwy o bobl i ddysgu a gall gweinidogion wneud hynny trwy wrando ar ein galwadau i osod targedau i ddarparu 5,000 o athrawon ledled Cymru yn y pum mlynedd nesaf.

“Dylai’r llywodraeth Lafur archwilio ad-dalu ffioedd dysgu ar gyfer y rhai sy’n mynd ymlaen i weithio fel athrawon am o leiaf pum mlynedd yn ysgolion Cymru a sefydlu Gwasanaeth Cynghori Addysg Cymru i wella mynediad at gyflogaeth a sefydlu mwy o lwybrau i’r proffesiwn addysgu.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Fel y nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i adolygiad o’r model presennol o ymgysylltu ag athrawon cyflenwi yng Nghymru, ac rydym am ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer addysgu cyflenwi, gyda gwaith teg wrth wraidd y gwaith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r adolygiad yn dilyn argymhellion gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd, a Swyddfa Archwilio Cymru.

“Mae nifer o lwybrau ar waith i ysgolion ac awdurdodau lleol recriwtio staff cyflenwi, naill ai’n gyffredinol neu yn ystod cyfnodau o absenoldeb cynyddol – gan gynnwys recriwtio drwy asiantaethau cymeradwy, neu’n uniongyrchol.”