Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod sylwadau a wnaed gan Dominic Cummings, cyn-brif gynghorydd y Prif Weinidog, yn gwneud “difrod gwirioneddol” i enw da’r Deyrnas Unedig.

Mae Dominic Cummings wedi bod yn llafar iawn ar ei gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, gan honni nad oedd Boris Johnson yn deall beth oedd yr Undeb Tollau a beth fyddai ei adael yn ei olygu, na chwaith beth oedd goblygiadau Cytundeb Ymadael Brexit.

Ar ben hynny, mae wedi galw’r Cabinet yn “jôc”, ac awgrymu y gallai Prydain dorri ei chytundeb â’r Undeb Ewropeaidd “fel mae’r UE, yr UDA, Tsieina a phob gwlad arall yn ei wneud”.

Yn wir, yn ôl Dominic Cummings bwriad Prydain drwyddi draw oedd “cael gwared â’r darnau oedden ni ddim yn hoffi ar ôl rhoi cweir i [Jeremy] Corbyn”.

“Enw da”

Dywedodd Mark Drakeford wrth Sky News: “Ni fydd gwlad sy’n ymddwyn yn y ffordd honno byth yn dod o hyd i bartneriaid yng ngweddill y byd sy’n barod i wneud busnes difrifol gyda nhw.

“Pan mae’r Deyrnas Unedig yn rhoi ei henw i gytundeb gyda rhannau eraill o’r byd, yna mae’n ddyletswydd arnom i weithredu’n ddidwyll gyda’r cytundeb hwnnw,” meddai.

“Mae’r sinigiaeth a glywsoch gan Dominic Cummings yn gwneud niwed gwirioneddol i enw da’r Deyrnas Unedig a’n gallu i daro cytundebau gyda gwledydd eraill ar ôl Brexit.”

“Syfrdanu”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru hefyd ei fod wedi ei “syfrdanu” yn sgil sylwadau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u gwneud ynglŷn â Phrotocol Gogledd Iwerddon a Brexit.

Dywedodd Mark Drakeford wrth Sky News: “Mae’n fater pwysig iawn i Gymru gan fod ein porthladdoedd yn wynebu ynys Iwerddon ac mae masnach drwy ein porthladdoedd wedi gostwng yn sylweddol ar ôl Brexit.

“Rwy’n cael fy syfrdanu gan rai o’r pethau rwy’n ei glywed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Y cytundeb yw’r cytundeb y maen nhw eu hunain wedi ymrwymo iddi.

“Eu cytundeb nhw ydi e, ond eto mor aml rydym yn clywed gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn siarad fel petai’r cytundeb yn gyfrifoldeb i rywun arall yn llwyr.”

Dywedodd ei fod wedi cwrdd â Joao Vale de Almeida a bod cyhoeddiadau gan yr Undeb Ewropeaidd yn dangos “ymdrechion ymarferol i ddelio â’r problemau” sydd wedi digwydd ar ffin Iwerddon

Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth Sky News: “Dydw i ddim yn credu ei bod hi’n ddefnyddiol pan fydd gweinidogion y Deyrnas Unedig yn gwneud areithiau’n beirniadu’r cytundeb yr oedden nhw eu hunain wedi’i lofnodi.

“O safbwynt Cymru, yr hyn rydyn ni wedi wastad wedi gofyn amdano yw i bobol fod o gwmpas y bwrdd, i bobol fod yn bragmatig, i bobol fod yn chwilio am ble maen nhw’n gallu cytuno, yn hytrach na nodi llinellau coch yn gyson ynglŷn â lle nad ydyn nhw’n barod i gytuno.”