Mae gyrwyr bysus Stagecoach yn bwriadu streicio y mis nesaf yn erbyn “tâl annheg”.

Mae’r gyrwyr, sydd wedi’u lleoli yn y depos ym Mrynmawr, Cwmbrân a’r Coed Duon, yn gofyn am £10.50 yr awr.

Dywedodd Uno’r Undeb bod Stagecoach wedi mynnu torri taliadau salwch ac egwyl gyda thâl, ac am gynnig £10.10 yr awr i weithwyr.

Fe wnaeth yr undeb a Stagecoach gyfarfod ddydd Gwener (8 Hydref), gydag Acas yn rheoli’r drafodaeth, er mwyn trafod y cyflog, ond gwrthododd y ddwy ochr ildio.

“Ergyd”

Dywedodd swyddog rhanbarthol Uno’r Undeb, Alan McCarthy, bod cynrychiolwyr yr undeb wedi dechrau’r trafodaethau’n “gadarnhaol y byddai Stagecoach yn symud”.

“Yn hytrach, y neges gaethom ni oedd ‘Rydyn ni’n meddwl eich bod chi’n ei haeddu, ond dydyn ni ddim eisiau ysgwyddo’r gost’,” meddai Alan McCarthy.

“Mae honno’n ergyd anodd ei derbyn, oherwydd mae cyllid y llywodraeth dan y rhaglen BES2 wedi bod yn talu am gostau gweithredu ers peth amser nawr, a bydd yn parhau felly nes Gorffennaf 2022.

“Mae Stagecoach wedi bod yn elwa drwy gyllid cyhoeddus, ond ni wnaiff dalu cyflog addas i weithwyr sydd wedi gwasanaethu drwy’r pandemig.

“Mae’r gefnogaeth wleidyddol a chefnogaeth y cyhoedd tuag at ein haelodau wedi bod yn anhygoel hyd yn hyn, gyda nifer o yrwyr yn derbyn anogaeth gan deithwyr.

“Mae cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd wedi cynnig eu cefnogaeth hefyd, gan gydnabod bod £10.50 yr awr yn ofyniad rhesymol am y gwaith hanfodol mae ein haelodau yn ei wneud.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn parhau wrth i Weithredu Diwydiannol ddechrau, oherwydd bydd Stagecoach yn trio beio eu gweithwyr am unrhyw amharu, heb amheuaeth.”

“Talu pris Covid”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Rhanbarthol Uno’r Undeb Cymru, Peter Hughes, eu bod nhw’n “gwybod beth sydd rownd i gornel i bobol weithiol”.

“Prisiau tanwydd uwch, prisiau ynni yn bygwth codi unrhyw funud, a chwyddiant uchel yn codi costau byw,” meddai.

“Mae Stagecoach yn dweud ‘ni wnawn ni ysgwyddo’r gost’ er eu bod nhw wedi elwa drwy gymorth cyllid cyhoeddus drwy gydol y pandemig.

“Mae hwn yn esiampl glir o gyflogwyr eisiau i weithwyr dalu pris Covid.

“Mae angen i Stagecoach wrando ar eu gweithwyr, y cyhoedd a’r rhanddeiliaid gwleidyddol.

“Mae’r gyrwyr hyn yn haeddu tâl teg, heb fod yn ymosod ar eu hamodau a’u telerau.”

National Express

Mae gwrthdaro rhwng Stagecoach mewn rhannau o Loegr hefyd, ond mae cwmni National Express wedi llwyddo i osgoi hynny.

Yn ôl National Express, mae eu harfer o brynu petrol o flaen llaw wedi’u helpu i osgoi problemau gyda phrinderau a chynnydd mewn prisiau.

Mae’r cwmni wedi prynu digon o betrol i bara nes hanner ffordd drwy 2023.

O ganlyniad, maen nhw wedi llwyddo i osgoi cynnydd mewn prisiau, a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi.

“Ni chafodd y prinder petrol diweddar yn y Deyrnas Unedig unrhyw effaith ar ein busnesau; rydyn ni wedi cael parhad mewn cyflenwad drwy gydol yr amser,” meddai’r cwmni.

Dywedodd y prif weithredwr Ignacio Garat ei fod yn “falch o ddweud” bod pwyslais parhaus y cwmni ar reoli costau, ynghyd â phrynu digon o betrol o flaen llaw, wedi golygu na welodd y cwmni “effaith real chwyddiant prisiau”.

Er hynny, dywedodd bod y cwmni wedi gorfod gweithio’n galed i sicrhau eu bod nhw ddim yn cael eu heffeithio gan brinder gyrwyr.

“Dw i’n arbennig o ddiolchgar i’n cydweithwyr am eu hymdrechion yn lliniaru heriau gydag argaeledd gyrwyr dros y diwydiant,” meddai Ignacio Garat.

Mae National Express wedi dechrau adfer wedi’r pandemig, ac yn nhrydydd chwarter y flwyddyn doedd eu hincwm ond 17% yn is nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2019.