Bydd chweched sesiwn y Senedd yn gyfnod i bobol Cymru “edrych tuag at y dyfodol”, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Yn ystod agoriad y Senedd, yng nghwmni’r Frenhines, dywedodd Mark Drakeford ei fod eisiau cwrdd â’r heriau o’n blaenau drwy hybu “llewyrch, cydraddoldeb, a llesiant ar gyfer pawb yng Nghymru”.

Roedd disgwyl i’r agoriad ddigwydd yn fuan ar ôl yr etholiad ym mis Mai, ond cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig.

Hwn oedd y tro cyntaf i’r Frenhines ymweld â Chymru ers 2016, ac wrth siarad fe wnaeth hi ganmol pobol Cymru am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth Mark Drakeford ganmol ymdrechion y rhai helpodd i liniaru effaith y pandemig, hefyd, gan ddweud: “Rydyn ni wedi gweld y gorau o Gymru yn ein system iechyd a gofal, gweithwyr siopau, ein hathrawon, holl weithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, y busnesau a’r gwirfoddolwyr, ac fe wnaeth eu hymroddiad a’u gwaith caled helpu i gadw Cymru ar agor yn ystod yr amser mwyaf caled hwn.

“Wrth i ni edrych tu hwnt i’r pandemig, rydyn ni’n cydnabod bod nifer o heriau o’n blaenau.

“I gwrdd â nhw byddwn ni’n defnyddio ein pwerau i hybu llewyrch, cydraddoldeb a llesiant i bawb yng Nghymru.

“Ac i droi ein hunain at argyfwng mawr arall ein hoes, argyfwng mewn newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.”

“Ysbryd” y Cymry

Roedd y Frenhines yn ymweld â’r Senedd gyda Thywysog Chymru a Duges Cernyw, a dywedodd: “Dw i wedi siarad o’r blaen am sut mae’r cyfnodau diweddar wedi dod â ni’n agosach at ein gilydd, mewn sawl ffordd.

“Mae arnom ni ddyled o ddiolch i’r rhai sydd wedi ymateb mor arbennig i heriau’r deunaw mis diwethaf, o’r gweithwyr allweddol i’r gwirfoddolwyr, sydd wedi gwneud cymaint i wasanaethu eu cymunedau.

“Maen nhw’n esiamplau disglair o’r ysbryd y mae’r Cymry’n adnabyddus amdano, ysbryd dw i wedi dod ar ei draws yn bersonol gymaint o weithiau.”

Y Frenhines Elizabeth yn annerch y Senedd heddiw