Roedd yr agoriad swyddogol o’r Senedd heddiw yn gyfle i ddangos bod Senedd Cymru yn gydradd â seneddau eraill y Deyrnas Unedig.

Dyna ddywedodd y Llywydd, Elin Jones wrth siarad gyda Golwg360 wedi’r digwyddiad.

Dywedodd Elin Jones, AoS Plaid Cymru Ceredigion: “Mae’r ffaith i’r Frenhines ddod yma yn dangos bod ein Senedd o’r un statws ag unrhyw Senedd arall o fewn ei gwladwriaeth hi.”

Yn ei hymweliad cyntaf â Chymru mewn pum mlynedd, dywedodd Y Frenhines Elizabeth, 95 oed wrth Senedd Cymru fod gan bawb “ddyled o ddiolchgarwch” i’r rhai sydd wedi gwasanaethu eu cymunedau.

Yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd, bu Elin Jones yn tywys Y Frenhines yn ystod agoriad swyddogol y Chweched Senedd.

Meddai: “Roedd y sgwrs yn ddifyr ar hyd y ffordd ond gwnaf ddim rhannu cynnwys y sgwrs honno yma gyda chi ar hyn o bryd beth bynnag.”

Y Frenhines Elizabeth, Y Llywydd Elin Jones, Tywysog Charles a’r Dduges Camilla

Mae cryn feirniadaeth wedi bod dros wefannau cymdeithasol am ddiben yr ymweliad ond mae Elin Jones yn mynnu bod arwyddocad i’r seremoni.

“Agoriad ein Senedd genedlaethol yw hyn yn ei hanfod ac felly fe fyddwn i’n meddwl bod yna bron dim byd yn fwy pwysig i Blaid Cymru nag agoriad swyddogol ein Senedd Ddemocrataidd,” meddai.

“Mae agoriad swyddogol i Senedd yn bwysig i bob gwlad ddemocrataidd yn y byd ac felly yn llawn bwysig i ni fan yng Nghymru.

“Rwyf yma’n gwisgo dwy het ar yr un pryd gan gynrychioli pobl Ceredigion a thywys y Frenhines ond yn hen gyfarwydd â gwneud hynny erbyn hyn.”

Cafodd Aelodau o’r Senedd eu harwain i’r siambr gan y Bursyll, symbol sy’n cynrychioli awdurdod Y Frenhines Elizabeth pan fydd y Senedd yn eistedd.

Yn ei araith fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod agor y chweched sesiwn yn “amser i bob un ohonom edrych i’r dyfodol”.

“Mae pobl o bob cwr o Gymru, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf pell o’r adeilad hwn, wedi dewis 60 o aelodau i gynrychioli ein huchelgeisiau ar y cyd a’r cwrs i’n gwlad, yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.

“Rwy’n siŵr y byddwn yn dadlau ac yn anghytuno ynglŷn â’r hyn sydd orau i Gymru, ond o hyd yn y Senedd hon mae diddordebau Cymru yn ganolog dros bopeth rydym yn cynrychioli ac yn gwneud.”

Gwesteion

Ymhlith y gwesteion roedd pobl a fu’n weithgar yn eu cymunedau yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth Ffion Gwyther, actores ifanc o Lanelli gyflwyno tusw o flodau i’r Frenhines Elizabeth.

Ffion Gwyther o Lanelli â’i mam Susie Hamill

“Roedd yn fraint ac anrhydedd enfawr, odd hi’n serchus hefyd. Roedd hi’n hoff iawn o fy ffrog oedd yr un lliw â’i ffrog hi hefyd.”

Pwysig i’r plant

Yn ôl un fam oedd wedi dod â’i merch i’r digwyddiad fe ddywedodd bod heddiw’n ddiwnrod pwysig i’r plant.

Llinos Patchell a’i merch

“Nid yn unig oherwydd eu bod yn cael gweld ychydig o’r pomp ond mae arwyddocâd i ddigwyddiad fel hyn ar gyfer ein democratiaeth ni,” meddai Llinos Patchell.

“Mae’n dangos i bobl ifanc o oedran ifanc fod parch i ddemocratiaeth ac mae’n bwysig i ddangos bod yna gyswllt uniongyrchol rhwng y Goron a phobl Cymru.”

Sesiwn newydd y Senedd yn gyfnod i “edrych tuag at y dyfodol”, medd Mark Drakeford

A’r Frenhines yn canmol pobol Cymru am eu hymdrechion yn ystod y pandemig, gan ddweud eu bod nhw’n “esiamplau disglair” o ysbryd y Cymry