Mae sawl un wedi mynegi dicter dros y ffaith bod y Frenhines Elizabeth yn agor Senedd Cymru heddiw.
Fe wnaeth y Frenhines, y Tywysog Siarl a Duges Cernyw ymddangos yn y seremoni agoriadol heddiw (14 Hydref), ar gyfer ei hymweliad swyddogol cyntaf â Chymru ers pum mlynedd.
Dyma fydd y chweched tro iddi fynychu’r agoriad swyddogol ers 1999, ond y tro cyntaf ers i’r sefydliad gael ei ddynodi yn Senedd Cymru.
Galw am weriniaeth
Roedd Cymdeithas yr Iaith yn dweud ar Twitter bod y sefydliad yn perthyn i “bobol gyffredin Cymru.”
Dywedodd y mudiad iaith mai nhw felly ddylai fod yn arwain yr agoriad, nid “aristocrat o wlad arall.”
Mae ein Senedd yn perthyn i bobl gyffredin Cymru. Nhw ddylai fod yn ei hagor hi, nid aristocrat o wlad arall.#gweriniaeth ???????
— Cymdeithas yr Iaith (@Cymdeithas) October 14, 2021
Roedd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn ategu’r alwad yna, pan oedd hi’n ymateb i un o areithiau’r diwrnod.
Dyma fydd y tro cyntaf ers y Cynulliad cyntaf yn 1999 i Wood beidio â bod yn aelod etholedig yn y sefydliad, ar ôl iddi golli ei sedd yn yr etholiad eleni.
Fe gwestiynodd hi’r angen i gael y Frenhines yn rhan o’r agoriad swyddogol, gan arwyddo ei phost ar Twitter drwy gyfeirio at y syniad o weriniaeth.
Let’s carry on and work for the day when we don’t need a monarch to officially open our Senedd, is it?#PeoplesSenedd #democracy #equality #WelshRepublic
— Leanne Wood ?? (@LeanneWood) October 14, 2021
Dywedodd yr awdur Llwyd Owen ei bod hi’n “gywilyddus” bod y Frenhines yn cael ei gwahodd i agor y Senedd ar ôl pob etholiad.
Fe alwodd y traddodiad yn “fabïaidd”, cyn galw am weriniaeth ac annibyniaeth yng Nghymru.
Mae hi mor gywilyddus bod brenhines Lloegr yn agor Senedd Cymru.
It's so embarassing that the queen of England is opening Senedd Cymru.
Something so infantile about it all.
Gweriniaeth Cymru! Annibynniaeth! Nawr! Plis!
— Llwyd Owen (@Llwyd_Owen) October 14, 2021
“Nodi arwyddocâd”
Roedd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn nodi bod cael y Frenhines yn bresennol yn “nodi arwyddocâd y Senedd” yn y genedl.
“Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn pedair senedd wahanol ac rwy’n gwybod bod y Frenhines bob amser wedi cymryd o ddifrif y gwaith y mae’n ei wneud wrth nodi hynny,” meddai wrth Sky News.
“Fel y dywedais, dyw hi erioed wedi colli agoriad tymor newydd yn y Senedd ac er gwaethaf yr amgylchiadau, a’i hoedran, bydd hi’n gwneud yr ymdrech honno eto heddiw.
Agoriad Swyddogol yn dangos bod cydraddoleb i’r Senedd medd y Llywydd, Elin Jones
Sesiwn newydd y Senedd yn gyfnod i “edrych tuag at y dyfodol”, medd Mark Drakeford
Brenhines Lloegr i agor Senedd Cymru