Mae prosiect newydd wedi’i lansio ar lannau’r afon Dyfi i ddysgu pobol sut i gynhyrchu bwyd yn lleol.
Bydd y prosiect, Tyfu Dyfi – bwyd, natur a lles, yn cael ei arwain gan ymddiriedolaeth datblygu, ecodyfi, a bydd ystod o weithgareddau’n cael eu cynnal dros y ddwy flynedd nesaf i ysgogi cynaliadwyedd.
Drwy hynny, bydd nifer o safleoedd tyfu cymunedol yn cael eu datblygu, a hyfforddiant garddio yn cael ei ddarparu i bobol leol.
Hefyd, mae amcan ehangach i helpu bywyd gwyllt yn ardal yr afon Dyfi a gwella iechyd corfforol y bobol sy’n cymryd rhan.
Bydd nifer o bartneriaid yn gweithio gydag ecodyfi, yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, ac mae’r prosiect eisoes wedi derbyn bron i £700,000 gan gronfa Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.
Bwriad
Fe wnaeth Chris Higgins, Cydlynydd Tyfu Dyfi, esbonio ychydig am y prosiect.
“Bwriad y prosiect yw cynyddu’r farchnad ar gyfer cynnyrch ffres, iach, lleol ac ysgogi busnes lleol,” meddai.
“Bydd hwb bwyd ar-lein arloesol yn cael ei sefydlu i gynorthwyo cyrchu, gwerthu, prynu a dosbarthu mwy o gynnyrch a dyfir yn lleol.
“Bydd cyfleoedd yn cael eu darparu i’r rheini sydd eisiau gwirfoddoli, mynychu gweithdai ar dyfu, coginio a maeth – a hefyd ar gyfer ffermwyr a thyfwyr sydd am gynyddu eu gwybodaeth am gynhyrchu.
“Bydd cyfleoedd i gael esboniad am gompostio a sut mae gwerth mewn gwastraff pydradwy.”
Cynaliadwyedd
Roedd Arfon Hughes yn dweud bod y sefyllfa ddiweddar ynglŷn â phrinder bwyd yn rhybudd bod y gadwyn gyflenwi bresennol yn anghynaladwy.
“Rydyn ni wedi dod i arfer ag ystod o fwyd sydd ar gael bob diwrnod o’r flwyddyn a dim ond, taith fer mewn car i ffwrdd,” meddai.
“Mae silffoedd gwag dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf yn rhybudd nad yw ein system fwyd mor wydn ag yr oeddem yn meddwl ar un adeg. ”