Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio i gynyddu trethi ar ail gartrefi

Bydd perchnogion ail gartrefi yn y sir nawr yn talu premiwm o 100% – yn hytrach na 50% – ar ben y dreth gyngor arferol, a hynny’n dilyn argymhelliad gan y cabinet.

Mewn cyfarfod rhithiol heddiw, 14 Hydref, gwnaeth aelodau cabinet y Cyngor gynnig yr argymhelliad ar ôl ymgynghoriad ar y mater, yn dilyn ymgynghoriad ar y mater a ddechreuodd ym mis Mehefin.

Byddan nhw hefyd yn cadw’r premiwm cartrefi gwag presennol, sydd eisoes yn 100%.

Ers 2017, mae perchnogion ail gartrefi wedi gorfod talu premiwm o 50% ar ben y dreth cyngor, a bydd hynny’n parhau nes Ebrill 2022, pan fydd y newidiadau yn dod i rym.

Bydd yr arian ychwanegol sy’n cael ei gasglu yn cael ei rannu 75/25 rhwng datblygu cartrefi fforddiadwy a chronfa gwella Sir Benfro.

Ar hyn o bryd, sir Benfro sydd â’r gyfradd uchaf ond un o ail gartrefi neu gartrefi gwag yng Nghymru.

Mae cynghorau Gwynedd ac Abertawe eisoes wedi cynyddu’r dreth ychwanegol i 100% mewn ymateb i bryderon yn eu siroedd nhw.

Cynyddu premiwm treth ar ail gartrefi o 50% i 100% yng Ngwynedd

O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm ar ail gartrefi nid oedd yr un ohonynt cyn hyn yn codi mwy na 50%

Penderfyniad y cabinet

Fe gymeradwyodd aelodau cabinet Cyngor Sir Benfro’r argymhelliad mewn cyfarfod rhithiol ddydd Llun, 4 Hydref.

Bryd hynny, dywedodd y Cynghorydd Bob Kilmister (Democratiaid Rhyddfrydol) wrth ei gyd-aelodau fod ail gartrefi wedi creu “problem gymdeithasol ddifrifol” ac mewn rhai cymunedau arfordirol roedd 40% o’r stoc tai yn ail gartrefi.

“Yn dilyn ein hymgynghoriad cyhoeddus, cyfarfu’r Cabinet y bore yma, 4 Hydref, ac fe wnes i argymell cynnydd o 50 [pwynt canran] yn y gordal ail gartref i’r Cyngor llawn, a chafodd ei gymeradwyo,” meddai.

“Er bod pobol o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig yn ei chael hi’n gymharol hawdd fforddio eiddo yn Sir Benfro, mae’n llawer anoddach i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn lleol.

“Mae cyfran uchel o ail gartrefi mewn cymuned hefyd yn fygythiad i hyfywedd ysgolion lleol a chyfleoedd i feithrin a thyfu’r Gymraeg.”

Dim ond un aelod o’r cabinet, Tessa Hodgson (nad yw’n cynrychioli unrhyw blaid ar y cyngor), bleidleisiodd yn erbyn y cynnig, gan ddweud ei bod yn ofni sgil-effeithiau “anfwriadol” y polisi. Aeth ymlaen i gwestiynu a oedd teuluoedd a phobol ifanc wir eisiau byw mewn ardaloedd arfordirol, gwledig ac ynysig.

Cododd bryderon hefyd y byddai mwy o berchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu tai fel busnesau ac felly osgoi’r cynnydd.

Tro’r Llywodraeth

Wedi i Gyngor Sir Benfro bleidleisio dros godi treth 100% ar ail gartrefi mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu nawr.

“Mae hyn yn newyddion calonogol i gymunedau ar draws Sir Benfro, felly diolch i’r cynghorwyr a bleidleisiodd dros gynyddu’r dreth a phawb a ymgyrchodd dros y polisi yma,” meddai Bethan Williams, ysgrifennydd y Gymdeithas yn rhanbarth Caerfyrddin-Penfro.

“Bydd cyfle i ddiolch i’r Cynghorydd Cris Tomos, yn y rali ar y Parrog yn Nhrefdraeth ar y 23ain o Hydref.

“Byddwn ni’n defnyddio’r cyfle hefyd i ddweud wrth y Llywodraeth ‘eich tro chi yw hi nawr’, a galw arnyn nhw i roi mesurau mewn lle fel na all pobol fanteisio ar unrhyw fannau gwan i osgoi’r dreth a gosod cap ar ail dai.”

Ail gartrefi yn “rhwygo’r galon” allan o gymunedau Sir Benfro, medd ymgyrchydd

Gwern ab Arwel

Bu ymgyrchwyr yn dringo mynydd Carn Ingli yn Sir Benfro fel rhan o ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’

Cabinet Cyngor Sir Benfro o blaid dyblu’r dreth ar ail gartrefi

Huw Bebb a Katy Jenkins, Gohebydd Democratiaeth Leol

“Mae cyfran uchel o ail gartrefi mewn cymuned yn fygythiad i hyfywedd ysgolion lleol a chyfleoedd i feithrin a thyfu’r Gymraeg”