Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio o blaid dyblu’r dreth ar ail gartrefi o 50% i 100% yn dilyn ymgynghoriad.
Byddai’r arian sy’n cael ei gasglu yn cael ei rannu 75/25 rhwng datblygu cartrefi fforddiadwy a chronfa gwella Sir Benfro.
Maen nhw hefyd am gadw’r premiwm cartrefi gwag presennol o 100%.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cefnogi cynyddu’r dreth ychwanegol ar ail gartrefi i 100%.
Y bwriad yw cyflwyno’r cynnydd ym mis Ebrill 2022, a bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan aelodau o gyngor llawn sir Benfro ar 14 Hydref, 2021.
Ar hyn o bryd, sir Benfro sydd â’r gyfradd uchaf ond un o ail gartrefi neu gartrefi gwag a chartrefi gwag hirdymor yng Nghymru.
Incwm
Yn 2017 cyflwynodd y cyngor bremiwm Treth Gyngor o 50% ar ail gartrefi a phremiwm o hyd at 100% ar gartrefi gwag hirdymor.
Mae’r Cyngor yn bwriadu lleihau nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor er mwyn cynyddu’r nifer o dai fforddiadwy yn Sir Benfro.
Byddai cynyddu’r premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi yn golygu £3.3m o incwm ychwanegol yn ôl y Cynghorydd Bob Kilmister (Democratiaid Rhyddfrydol), yr Aelod Cabinet dros Gyllid.
Ar hyn o bryd mae’r cyngor yn datblygu Strategaeth Tai Fforddiadwy a fydd yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau Perchnogaeth Cost Isel, ac wedi cyflwyno Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag i Lywodraeth Cymru i’w ystyried.
Bygythiad
Mewn cyfarfod rhithiol, dywedodd y Cynghorydd Bob Kilmister wrth ei gyd-aelodau fod ail gartrefi wedi creu “problem gymdeithasol ddifrifol” ac mewn rhai cymunedau arfordirol roedd 40% o’r stoc tai yn ail gartrefi.
Maeddai: “Yn dilyn ein hymgynghoriad cyhoeddus, cyfarfu’r Cabinet y bore yma, 4 Hydref, a fe wnes i argymell cynnydd o 50 [pwynt canran] yn y gordal ail gartref i’r Cyngor llawn, a chafodd ei gymeradwyo.
“Er bod pobol o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig yn ei chael hi’n gymharol hawdd fforddio eiddo yn Sir Benfro, mae’n llawer anoddach i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn lleol.
“Mae cyfran uchel o ail gartrefi mewn cymuned hefyd yn fygythiad i hyfywedd ysgolion lleol a chyfleoedd i feithrin a thyfu’r Gymraeg.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Michelle Bateman, aelod cabinet dros dai, ei fod yn benderfyniad anodd ond bod nifer yr e-byst y mae’n ei derbyn gan breswylwyr mewn “angen dybryd am dai ar hyn o bryd” yn cynyddu.
Nid mater o beidio â dod o hyd i gartref y gallant ei fforddio ydoedd ond mater o beidio gallu “dod o hyd i unrhyw beth o gwbl”, yn ôl Michelle Bateman.
Ymateb i wrthwynebiad
Dim ond un aelod o’r cabinet, Tessa Hodgson (nad yw’n cynrychioli unrhyw blaid ar y cyngor), bleidleisiodd yn erbyn y cynnig, gan ddweud ei bod yn ofni sgil-effeithiau “anfwriadol” y polisi. Aeth ymlaen i gwestiynu a oedd teuluoedd a phobol ifanc wir eisiau byw mewn ardaloedd arfordirol, gwledig ac ynysig.
Cododd bryderon hefyd y byddai mwy o berchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu tai fel busnesau ac felly osgoi’r cynnydd.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd Bob Kilmister ei bod yn anghywir dweud y byddai’r holl arian yn cael ei golli yn y sefyllfa honno gan y byddai Llywodraeth Cymru yn talu treth cyngor cyfartalog Cymru ar gyfer yr eiddo hwnnw – mwy na threth gyngor Sir Benfro ond llai na’r premiwm.
Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Miller (Llafur) y byddai’n rhaid gosod eiddo am nifer penodol o wythnosau’r flwyddyn pe bai eiddo’n cael ei “newid” yn fusnes – gan ddod yn “rhan o ffyniant economaidd Sir Benfro” – ac nid dim ond ymweld yn achlysurol a’u “cau am weddill y flwyddyn”.
Pwysleisiodd ef, ac aelodau eraill, nad oedd y mater yn “nonsens senoffobig” neu’n “ymosodiad ar berchnogion ail gartrefi” ond yn ymgais i fynd i’r afael â’r angen gwirioneddol a dybryd am dai yn y sir.
Roedd yr Aelodau hefyd am wybod am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar y mater, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf i ddod yn y dyfodol, yn ogystal â thynnu sylw at yr angen i archwilio mesurau lliniaru eraill drwy gynllunio, trwyddedu a chyfamodau.