Dr Huw Williams, Uwch-ddarlithydd Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni.

‘Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol’ yw testun yr erthygl fuddugol, ac mae hi’n rhoi sylw arbennig i rai o’r trafodaethau ynghylch ymyrraeth filwrol, y syniad o ymyrraeth ddyngarol, a’r cwestiynau moesol o gwmpas y weithred.

Mae Gwobr Gwerddon yn rhan o Wobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n dathlu myfyrwyr Cymraeg disglair ac ymroddedig, a darlithwyr cyfrwng Cymraeg sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at addysg uwch.

Mae Gwerddon yn gyfnodolyn amlddisgyblaethol, ac yn ôl Dr Huw Williams mae hi’n “braf” gweld darn am athroniaeth yn dod i’r brig.

Mae Dr Huw Williams yn athronydd gwleidyddol amlwg, ac wedi cyfrannu tuag at y drafodaeth athronyddol yng Nghymru drwy ei gyfrolau Credoau’r Cymry ac Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig, a thrwy gyfraniadau at gyfnodolion fel Planet ac O’r Pedwar Gwynt.

“Yn amlwg, roeddwn i’n falch iawn o gael ennill y wobr. Mae hi wastad yn braf cael cydnabyddiaeth am eich gwaith chi, ac yn amlwg mae Gwerddon yn gyfnodolyn amlddisgyblaethol felly mae rhywun yn cael eu cymharu gyda lot o arbenigwyr eraill o feysydd eraill,” meddai Dr Huw Williams wrth golwg360.

“Un o’r rhesymau sefydlwyd Gwerddon am wn i yw codi proffil yr amryw o bynciau sy’n cael eu haddysgu a’u harchwilio drwy’r Gymraeg, felly mae gweld papur ym maes athroniaeth yn ennill yn beth da.”

Ymyrraeth ddyngarol

“Mae’r erthygl ei hunan yn trafod y cwestiwn o heddwch, ac mae’n rhoi sylw’n arbennig i rai o’r trafodaethau ynglŷn ag ymyrraeth, a’r syniad o ymyrraeth ddyngarol a’r cwestiynau moesol o gwmpas y math yna o weithred,” meddai Dr Huw Williams am ‘Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn’.

“Yn amlwg yn y blynyddoedd diwethaf, efallai’r deg, ugain mlynedd ddiwethaf, mae yna fwy o’r math yna o ymyrraeth wedi digwydd o safbwynt y gorllewin yn ymyrryd mewn rhannau eraill o’r byd a chwestiynau dyrys yn codi ynglŷn â hynny, yn enwedig yn sgil Irac ac Affganistan.

“Gobeithio hefyd bod yr erthygl yn drafodaeth ac yn gyfraniad at y math yna o sgwrs, ac ystyriaeth wleidyddol.

“Mae’n hysbys, o weld canlyniadau’r ymyrraeth yn Affganistan yn ddiweddar, a chanlyniadau adolygiad Chilcot cwpwl o flynyddoedd yn ôl, fod y penderfyniadau yma, efallai, heb fod y rhai mwyaf ystyriol,” ychwanegodd.

“Mae’r papur yn trafod o dan ba amodau, os o gwbl, mae ymyrraeth o’r fath yn rhywbeth y gallen ni ei dderbyn.

“Mae yna lot o ddefnydd o’r syniad o gyfiawnder, bod e’n gyfiawn ymyrryd am wahanol resymau. Beth mae’r erthygl yn ddadlau yw bod angen i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â defnyddio’r math yna o iaith o amgylch y weithred o ryfel.

“Anodd iawn yw galw rhyfel yn gyfiawn pan mae rhywun yn gwybod bod yna gymaint o ganlyniadau erchyll yn dilyn o ryfel, yn enwedig yn ddiweddar yr ymgyrch yma gan rai i ddweud bod e’n gyfiawn neu’n rhyfel cyfiawn i fod yn ymyrryd mewn gwledydd ledled y byd.

“Mae eisie cwestiynu a chodi pob math o amheuon ynglŷn â’r agwedd yma.”

Cafodd Academi Heddwch Cymru ei lansio llynedd, ac maen nhw newydd benodi eu cadeirydd cyntaf, cyn-Archesgob Cymru, Dr Rowan Williams.

“Digwydd bod dw i’n aelod o’r pwyllgor yna, felly mae hi’n braf iawn cael cydnabyddiaeth ac ennill gwobr o’r fath yma gyda chyfraniad ar y pwnc yma, ac yn amserol o safbwynt y prosiect yna,” meddai Dr Huw Williams.

“Gobeithio bydd yna fwy o gyfleoedd i gyfrannu tuag at y drafodaeth yma am heddwch yn y blynyddoedd i ddod.”

Enillwyr eraill

Mae enillwyr y gwobrau eraill fel a ganlyn:

Gwobr Gwyn Thomas am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg: Nia Eyre, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am ei thraethawd hir, “Archwilio modd mynegiannol hunanffuglen mewn rhyddiaith Gymraeg”.

Gwobr John Davies am y traethawd estynedig gorau ym maes Hanes Cymru: Anwen Rhiannon Jones, Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd am ei thraethawd hir, “Iechyd Cyhoeddus a Chyfradd Marwolaethau Oedolion a Babanod: Profiad Llanelli 1880-1914”.

Gwobr Merêd sy’n cydnabod cyfraniad myfyriwr i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn prifysgol: Owain Beynon, Myfyriwr Doethuriaeth, Ysgol Gemeg, Prifysgol Caerdydd am ddangos gweledigaeth a brwdfrydedd wrth sicrhau fod glasfyfyrwyr Medi 2020 wedi derbyn yr un croeso ag arfer, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol. Fe’i wobrwyir hefyd am ei waith i sicrhau bod Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael sylw ac yn denu diddordeb myfyrwyr.

Gwobr Norah Isaac ar gyfer y myfyriwr sy’n derbyn y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg: Sioned Spencer, Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Nia Eyre, Owain Williams, Sioned Spencer ac Owain Beynon

Gobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth: Ifan Phillips, Prentis mewn Gosodiadau Trydanol, Coleg Sir Benfro am ei gyfraniad tuag at hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn y Coleg.

Gwobr Meddygaeth William Salesbury yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth: Owain Williams, Chelsie Waters, Lowri James a Megan Evans, Clwb Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd am chware rôl flaengar wrth adnewyddu Cymdeithas Feddygol Gymraeg, Clwb y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd.

Gwobr y Myfyrwyr, sy’n gategori newydd ar gyfer 2020-21, er mwyn i fyfyrwyr gael y cyfle i enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau yn y brifysgol: Geraint Forster, Uwch-ddarlithydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am yr effaith gadarnhaol mae ei waith yn ei gael ar brofiad myfyrwyr yn yr adran ac roedd hyn yn glir iawn yn sylwadau’r myfyrwyr hynny.

Megan Jones, Chelsie Walters, Ifan Phillips a Lowri James

Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol er mwyn cydnabod darlithydd neu ymarferydd sydd wedi arwain ar greu adnodd cyfrwng Cymraeg sydd o ansawdd uchel ac sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau: Jeni Price, Uwch-ddarlithydd Rhagoriaith, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer adnodd.

Gwobr Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg i unigolyn sydd yn haeddu cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol i addysg uwch tu hwnt i’w rôl broffesiynol: Dr Lowri Cunnington Wynn, Darlithydd Troseddeg, Prifysgol Aberystwyth am weithio’n ddiflino i ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, denu myfyrwyr i astudio’r pwnc drwy’r Gymraeg, annog myfyrwyr presennol i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg a  gwella’r adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

Oherwydd yr amgylchiadau mae’r Coleg wedi trefnu seremoni wobrwyo hybrid fydd yn digwydd yn rhannol yn rhithiol ac yn rhannol wyneb yn wyneb gan sicrhau pellter cymdeithasol yng Nghanolfan Yr Egin S4C, Caerfyrddin heno am 6:30yhGellir gwylio’r digwyddiad yma ar sianel youtube y Coleg.