Mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer y diffoddwyr tân yng Nghymru wedi gostwng ers y llynedd.

Mae’r ffigyrau bellach rhwng 7 a 19% yn is na 2010 ledled Cymru – gostyngiad o bron i 450 o ddiffoddwyr tân.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 44 o ddiffoddwyr tân.

Daw’r dirywiad yn sgil heriau cynyddol i ddiffoddwyr tân Cymru gyda newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r perygl o lifogydd a thanau gwyllt.

Ym mis Mehefin eleni dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd y gall Cymru “ddisgwyl i [danau gwyllt] ddod yn broblem fawr” wrth i newid yn yr hinsawdd barhau.

“Toriadau dinistriol”

“Dylai’r cyhoedd allu dibynnu ar y gwasanaeth tân ac achub i allu delio â thanau yn eu cartrefi, gyda thanau gwyllt, gyda llifogydd, gyda thanau yn eu busnesau a’u hysgolion, ond ni allwn wneud hynny os nad oes gennym y bobl i wneud hynny,” meddai Cerith Griffiths, aelod o Gyngor Gweithredol Cymru Undeb y Brigadau Tân.

“Mae hynny’n arbennig o wir o ran nifer o ddigwyddiadau ar raddfa fawr yn digwydd ar yr un pryd.

“Rwyf am fod yn glir: ar ôl blynyddoedd o doriadau dinistriol i’n gwasanaeth tân ac achub, a dirywiad pellach eleni, mae siawns wirioneddol na fydd ein gwasanaeth tân ac achub yn gallu ymateb yn ddigonol i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau.”

‘Buddsoddiad’

Ychwanegodd Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân: “Mae gan ein cymunedau’r hawl i deimlo eu bod wedi’u diogelu.

“Mae pob un ohonom am allu cerdded heibio i orsafoedd tân a gwybod bod digon o bobl yno i’n hamddiffyn.

“A bydd diffoddwyr tân bob amser yn gwneud beth bynnag a allant i achub bywydau.

“Mae angen i lywodraeth ganolog roi terfyn ar ei hymosodiad ar doriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus ac mae angen i’r llywodraeth yng Nghymru fuddsoddi yn ein gwasanaeth er mwyn i ni allu ymateb i’r risgiau newydd rydym yn eu hwynebu, gan gynnwys o’r newid yn yr hinsawdd.”