Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu ac ymgyrchydd yn erbyn trais wedi galw ar Gomisiynydd Heddlu Gogledd Swydd Efrog i ymddiswyddo yn sgil ei sylwadau ynghylch Sarah Everard.

Mewn llythyr wedi’i ysgrifennu ar y cyd â Rachel Williams, ymgyrchydd yn erbyn trais a sefydlydd Stand Up To Domestic Abuse, mae cyn-Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod sylwadau Philip Allott yn “beio’r dioddefwr” ac yn “gwbl anaddas”.

Cafodd Rachel Williams, o Gasnewydd, ei chamdrin gan ei gwr am 18 mlynedd, ac yn 2011 fe ynmosododd arni gan ei saethu yn ei choesau a’i tharo yn ei phen gyda’r gwn. Crogodd ei gwr ei hun wedi’r digwyddiad yn 2011, ac ychydig wythnosau wedyn bu i’w mab 16 oed farw’n sgil hunanladdiad hefyd.

Wedi i Wayne Couzens gael ei ddedfrydu i oes gyfan yn y carchar am herwgipio, treisio a llofruddio Sarah Everard, dywedodd Philip Allott bod “angen i fenywod fod yn fwy streetwise” ynghylch pwerau arestio.

Daeth i’r amlwg yn ystod yr achos llys bod Wayne Couzens wedi cymryd arna ei fod yn arestio Sarah Everard am dorri rheolau Covid er mwyn ei herwgipio.

Difrifol

Wrth siarad â BBC Radio York, dywedodd Philip Allott y dylai menywod wybod nad yw hynny’n drosedd dditiadwy (indictable) – hynny yw ei bod hi ddim yn drosedd ddigon difrifol i arwain at garchar na gwrandawiad yn llys y goron.

Mewn llythyr at Banel Trosedd a Heddlu Gogledd Swydd Efrog, mae Rachel Williams ac Arfon Jones, o’r Gresffordd, Wrecsam, yn dweud eu bod nhw’n ysgrifennu atyn nhw fel “pobol broffesiynol sydd ynghlwm â chynrychioli a diogelu menywod a merched sydd, neu sy’n debyg o, ddioddef trais gan ddynion yma yng Nghymru a Lloegr”.

“Roedden ni wedi dychryn yn darllen am sylwadau rhywiaethol Mr Philip Allott am Sarah Everard yn dilyn dedfrydu Wayne Couzens am ei llofruddiaeth,” meddai’r llythyr, sydd wedi cael ei arwyddo gan nifer o arbenigwyr eraill yn y maes.

Anaddas

“Roedd sylwadau Mr Allott yn ‘beio’r dioddefwr’ yn perthyn i’r gorffennol ac yn ddefnydd hollol anaddas o iaith gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd etholedig sydd wedi cael y dasg o arwain, gweithredu a datblygu gwaith y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau gan y Swyddfa Gartref a’r Adran Gyfiawnder.

“Er bod Mr Allott wedi ymddiheuro, roedd hi ychydig rhy hwyr ac mae difrod enfawr wedi’i wneud yn barod.

“Yn fyr, rydyn ni’n credu bod sylwadau Mr Allott wedi rhoi enw drwg i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac y dylai ymddiswyddo.

“Rydyn ni’n ofyn i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Swydd Efrog ystyried y llythyr hwn fel cwyn swyddogol ac rydyn ni’n gofyn i chi gymryd camau priodol.”

Mae’r llythyr wedi cael ei rannu â’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu hefyd.

Ymddiheuro

Dywedodd Philip Allott: “I ddechrau, mae angen i fenywod fod yn streetwise ynghylch pryd y gallen nhw gael eu harestio a phryd na allen nhw gael eu harestio. Dylai hi byth fod wedi cael ei harestio na derbyn hynny.

“Efallai bod angen i ferched ystyried yn nhermau’r broses gyfreithiol, dim ond er mwyn dysgu ychydig am y broses gyfreithiol honno.”

Mae Philip Allott wedi ymddiheuro am ei sylwadau, gan ddweud eu bod am eu tynnu’n ôl.

Mae Keir Starmer wedi galw arno i ymddiswyddo hefyd, a dywedodd Nicole Sturgeon fod ei sylwadau’n “arswydus”.

Heddlu’r Met yn lansio adolygiad yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard

Cyflogi swyddog newydd, blaenllaw yn yr heddlu, i weithio ochr yn ochr â Cressida Dick ar ddelio â llygredd o fewn y sefydliad

Dedfrydu Wayne Couzens i oes gyfan o garchar am lofruddio Sarah Everard

Wrth ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey, fe wnaeth y barnwr ddisgrifio amgylchiadau’r llofruddiaeth fel rhai “grotésg”