Mae Wayne Couzens, 48, wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes gyfan am lofruddio Sarah Everard ar ôl ei herwgipio.

Fe wnaeth Couzens, a oedd yn swyddog gyda’r Heddlu Metropolitaidd, herwgipio Sarah Everard, 33, wrth iddi gerdded adref yn ardal Clapham yn ne Llundain, gan gymryd arno ei fod yn ei harestio.

Wrth ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey heddiw (dydd Iau, Medi 30), fe wnaeth y Barnwr Fulford ddisgrifio amgylchiadau’r llofruddiaeth fel rhai “grotésg”.

Dywedodd fod difrifoldeb yr achos yn “eithriadol o uchel” a’i fod yn arwain at ddedfryd oes gyfan yn y carchar – sy’n golygu na fydd fyth yn gymwys i gael ei ystyried am barôl.

“Mae’r camddefnydd o swydd swyddog heddlu, fel ddigwyddodd yn yr achos hwn er mwyn herwgipio, treisio a llofruddio un dioddefwr, gyfystyr â llofruddiaeth ar gyfer hyrwyddo achosion ideolegol gwleidyddol, grefyddol,” meddai.

Rhoddodd deyrnged i urddas teulu Sarah Everard, a wnaeth ddarllen datganiadau yn y llys yn trafod effaith ddynol “troseddu hunanol, brwnt a gwyrdroëdig” Wayne Couzens.

Yr achos

Roedd Wayne Couzens yn ysgwyd yn y doc wrth iddo gael ei anfon oddi yno i ddechrau ar ei ddedfryd o garchar am oes.

Clywodd y llys sut y bu iddo ddefnyddio ei gerdyn adnabod gyda’r heddlu a chyffion i gipio Sarah Everard ar Fawrth 3.

Gyrrodd Wayne Couzens, a oedd newydd orffen shifft ddeuddeg awr yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau’r bore hwnnw, i ddarn o dir gwledig ac anghysbell ger Dover yng Nghaint, lle y gwnaeth e dreisio Sarah Everard.

Cafodd Sarah Everard ei thagu â gwregys Couzens, yna llosgodd ei chorff mewn oergell mewn rhan o goedlan oedd yn berchen iddo ger Ashford, cyn gadael ei chorff mewn pwll gerllaw.

Cafodd Couzens ei arestio yn ei gartref yn Deal, Caint ar Fawrth 10, gyda’r heddlu yn aros am ddwy awr cyn mynd i mewn i’w arestio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth e ddileu popeth oddi ar ei ffôn.

Ddoe (dydd Mercher, Medi 29), gofynnodd rhieni Sarah Everard, Jeremy a Susan, a’i chwaer Katie i Couzens edrych arnyn nhw, gan ei gondemnio’n “fwystfil” wrth iddo eistedd yn y doc yn crynu gyda’i ben lawr.

Roedd Comisiynydd Heddlu Llundain yno hefyd er mwyn clywed sut y gwnaeth un o’i swyddogion gamddefnyddio ei safle i droseddu.

Fe wnaeth yr erlynydd, Tom Little, awgrymu bod yr achos mor ddifrifol nes ei fod yn golygu y gallai arwain at ddedfryd oes gyfan, a fyddai’n golygu bod Couzens yn marw yn y carchar.

Roedd y bargyfreithiwr ar ran y diffynnydd, Jim Sturman, wedi annog y barnwr i roi dedfryd oes hir iddo, gan olygu y byddai’n gymwys ar gyfer parôl yn ei 80au.

Codi “cywilydd” ar yr heddlu

Mae Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan wedi dweud bod llofruddiaeth Sarah Everard wedi codi “cywilydd” ar yr heddlu, gan gyfaddef bod “math gwerthfawr o ymddiriedaeth wedi’i ddifrodi.”

Cafodd y Fonesig Cressida Dick ei heclo gan bobol yn galw am ei hymddiswyddiad y tu allan i’r Old Bailey heddiw wedi’r dedfrydu.

“Mae’r dyn yma wedi dwyn gwarth ar y Met,” meddai Cressida Dick.

“A dweud y gwir, fel sefydliad rydym wedi cael ein siglo.

“Rwy’n gwybod yn iawn bod yna rai sy’n teimlo bod eu hymddiriedaeth ynom ni yn cael ei ysgwyd.

“Rwy’n cydnabod bod math gwerthfawr o ymddiriedaeth wedi’i ddifrodi i rai pobol.”

Dywedodd Cressida Dick bod y gwrandawiad “wedi datgelu creulondeb troseddau’r dyn hwn yn erbyn Sarah”.

“Rwyf wedi dychryn bod y dyn hwn wedi defnyddio ei safle fel rhywun i’w ymddiried i dwyllo Sarah, ac rwy’n gwybod eich bod chi i gyd hefyd.

“Roedd y camau hyn yn bradychu popeth y mae plismona’n sefyll drosto.

“Roedd yr hyn a wnaeth yn annymunol ac yn warthus.

“Dangosodd mai ef ei hun yw’r un llwfr drwy ei gelwyddau, ac wrth geisio lleihau ei gyfrifoldeb dros ei droseddau.

“Mae swyddogion yr heddlu yma i amddiffyn pobol, i fod yn ddibynadwy, yn ddewr ac yn dosturiol.

“Mae ei holl weithredoedd i’r gwrthwyneb llwyr o hynny.

“Mae’n hanfodol bod pawb yn y wlad hon yn gallu ymddiried yn swyddogion yr heddlu pan fydden nhw’n dod ar eu traws.

“Aeth y barnwr ymlaen i ddweud ei fod wedi ychwanegu’n sylweddol at yr ymdeimlad o ansicrwydd sydd gan lawer ynghylch byw yn ein dinasoedd, yn enwedig menywod efallai.”

‘Ychydig o gysur’

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd y ffaith bod Wayne Couzens am dreulio gweddill ei oes yn y carchar yn dod ag ychydig o gysur i deulu Sarah Everard, ac fe wnaeth ganmol y rhai fu ynghlwm â’r ymchwiliad a’r achos.

“Gwelais drosof fy hun, yn uniongyrchol, eu penderfynoldeb a’u proffesiynoldeb eithriadol,” meddai.

“Dyma’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan dwi’n ei adnabod.

“Mae’n alluog ac yn ofalgar, mae’n llawn pobol dda sy’n gweithio ar hyd eu hoes i amddiffyn eraill.”

Dywedodd Cressida Dick bod ymroddiad ei heddlu i’r cyhoedd yn parhau i fod yn “ddiwyro”, gan ychwanegu: “Fel comisiynydd, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau ein bod yn dysgu unrhyw wersi.

“Rwy’n gwybod bod yr hyn a ddigwyddodd i Sarah, a’r hyn sydd wedi digwydd i fenywod eraill yn Llundain a thu hwnt yn ddiweddar, wedi codi cwestiynau pwysig am ddiogelwch menywod.

“Yma yn y Met, rwy’n ymrwymo i barhau i weithio gydag eraill i wella diogelwch menywod a lleihau ofn trais.

“Does dim geiriau sy’n gallu mynegi’n llawn y tristwch mawr a llethol rydyn ni i gyd yn ei deimlo am yr hyn ddigwyddodd.

“Mae hi’n ddrwg iawn gen i.”

“Cwestiynau difrifol”

Mae angen i’r Heddlu Metropolitan ateb “cwestiynau difrifol”, meddai’r Ysgrifennydd Cartref Priti Palel wrth iddi ddatgan ei chefnogaeth i Cressida Dick.

Roedd Cressida Dick yn wynebu mwy o alwadau i gamu lawr yn sgil galwadau am weithredu brys i adfer hyder menywod yn yr heddlu.

Yn gynharach y mis hwn cafodd ei chontract ei ymestyn am ddwy flynedd, sy’n golygu y bydd yn parhau i arwain yn ei swydd tan 2024.

Wrth siarad yn y Swyddfa Gartref, dywedodd Priti Patel: “Mae cwestiynau, cwestiynau difrifol y mae angen i Heddlu’r Metropolitan eu hateb … o’r diwrnod yr aeth Sarah ar goll, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â’r Heddlu Metropolitan, yn amlwg, ac yn cyflwyno rhai cwestiynau ynghylch ymddygiad y troseddwr posibl ar y pryd a’r holl ofynion a gwiriadau y dylid bod wedi’u rhoi ar waith.”

Pan ofynnwyd i Priti Patel a ddylai Cressida Dick ymddiswyddo, dywedodd: “Byddaf yn parhau i weithio gyda’r Heddlu Metropolitan a’r comisiynydd i’w dwyn yn atebol fel y byddai pawb yn disgwyl i mi ei wneud.”

Achos dedfrydu llofrudd Sarah Everard yn clywed ei bod wedi ei “thwyllo, cipio, treisio, a’i thagu”

Bydd y cyn-blismon Wayne Couzens yn cael ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey