Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod rhaid i weinidogion gymryd cyfrifoldeb am fethiannau gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.
Mewn dadl dan arweiniad Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru ar lawr y Senedd ddoe (dydd Mercher, Medi 29), cafodd pryderon eu codi ynghylch Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gan nad yw adroddiad ar wasanaethau iechyd meddwl ar Uned Hergest ym Mangor gan Robin Holden wedi ei gyhoeddi’n llawn.
Mae rhannau o’r adroddiad eisoes wedi rhybuddio bod y ward mewn “trafferthion difrifol” wedi i gopi o’r adroddiad a oedd wedi ei olygu gael ei gyhoeddi yn 2015.
Cafodd yr adroddiad ei lunio yn 2013 ar ôl i ddwsinau o weithwyr iechyd ddod ymlaen i ddatgelu arfer ddrwg yn uned iechyd meddwl ym Mangor.
Roedd eu tystiolaeth yn cyfateb i 700 tudalen o dystiolaeth ddamniol nad oedd cleifion iechyd meddwl yn cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnyn nhw ac yn ei haeddu.
Sgandal
“Mae hon yn sgandal drasig y gellir ei hosgoi,” meddai Llyr Gruffydd.
“Mae’n sgandal gan nad oes neb wedi cael ei ddal i gyfrif am y methiannau.
“Nid methiannau staff rheng flaen sydd wedi’u gorymestyn yw’r rhain.
“Dyma fethiannau hirdymor uwch reolwyr sydd wedi parhau i gael eu cyflogi gan Betsi – rhai ohonynt â swyddi uchel iawn o fewn y bwrdd iechyd.”
Mae Llyr Gruffydd bellach yn rhybuddio bod yna “ddiwylliant o cover-up” gyda phobl ar lefel uchaf y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb.
Mae’n galw ar y gweinidog Iechyd, Eluned Morgan i egluro:
- pam nad yw’r adroddiad wedi’i gyhoeddi
- pam nad yw’r argymhellion wedi’u cyflawni
- pam mae pobol yn dal i farw mewn uned iechyd meddwl pan ddylai’r risgiau fod wedi’u dileu?
“Dydy’r adroddiad hwn heb weld golau dydd,” meddai Llyr Gruffydd.
“Hyd heddiw, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gwrthod ei rhyddhau er gwaethaf gorchmynion gan y Comisiynydd Gwybodaeth i’w rhyddhau.
“Cafodd gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd eu nodi fel un rheswm pam fod angen i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gael ei gymryd i fesurau arbennig dros chwe blynedd yn ôl gan y Prif Weinidog [Mark Drakeford], sef y gweinidog iechyd ar y pryd.
“Roedd hynny’n ddatganiad clir ac yn gydnabyddiaeth o fethiannau a chamgymeriadau blaenorol”
Galw am dryloywder
Hefyd yn cyfrannu i’r ddadl roedd Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, sy’n galw am dryloywder gan Lywodraeth Cymru.
Mae e am weld “tryloywder ar unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru a dangos nad yw’n ymwneud â cover-up“.
“Rhaid i ni beidio â chaniatáu i hyn gael ei ddiystyru fel hanes hynafol,” meddai.
“Mae dau glaf yn unedau iechyd meddwl gogledd Cymru wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, eisoes wedi codi pryderon am dynnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.
“Mae’r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar sut mae rhyddhau adroddiad Robin Holden o 2013 yn sicr yn allweddol wrth gymryd y cam gwirioneddol cyntaf i fynd i’r afael â’r problemau ehangach a mynd at wraidd yr anawsterau unwaith ac am byth,” meddai.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a gweithredu, ac mae’n codi’r cwestiwn unwaith eto: a oedd Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn barod iawn i ddod allan o fesurau arbennig y llynedd?”
Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, fod gan y bwrdd iechyd “ffordd bell i fynd” wrth wella gwasanaethau iechyd meddwl.
“Rwyf am gydnabod y digwyddiadau trasig diweddar yn y bwrdd iechyd a gallaf sicrhau aelodau bod y digwyddiadau hyn wedi cael eu nodi,” meddai.
“Rwy’n glir, mae ffordd bell i fynd, a dyna pam fod y bwrdd iechyd i fod mewn ymyrraeth dargedol.
“Mae’n rhaid cofio bod ymyrraeth dargedol yn lefel uchel iawn o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru sy’n cydnabod fod y bwrdd iechyd yn parhau ar ei siwrnai i wella gwasanaethau.
“Mae’n glir fod yna ddyhead i sicrhau gwellhad i newid y bwrdd, ac mae angen cefnogi’r bwrdd iechyd er lles pobol gogledd Cymru.”