Mae ymgyrchwyr Hawl i Fyw Adra wedi ysgrifennu at y prif weinidog i alw am “deddfwriaeth a pholisïau cadarn” i amddiffyn cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi.
Aeth bron i flwyddyn heibio ers i Mark Drakeford gyfarfod â Chyngor Tref Nefyn a grŵp Hawl i Fyw Adra i drafod y mater.
Fodd bynnag, dydy’r grŵp ddim yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Dros y penwythnos, fe wnaeth dros 30 o ymgyrchwyr gerdded 18 milltir o’r Ganolfan Iaith yn Nant Gwrtheyrn i Bencadlys Cyngor Sir Gwynedd yng Nghaernarfon i amlygu’r sefyllfa.
Mae Hawl i Fyw Adra yn galw ar y prif weinidog i:
- Beilota mesurau sy’n rhoi ‘cap’ ar dai haf gan greu dosbarth defnydd a gosod trothwyon ar eu cyfer ymhob cymuned.
- Gyflwyno deddfwriaeth/mesurau cyffelyb i ddeddfau Lex Koller a Lex Weber y Swistir er mwyn mynd i’r afael â thai haf.
- Addasu’r gyfradd uwch o dreth tir nes y gellir codi treth ychwanegol ar dai haf.
“Rydym wedi clywed cyhoeddiadau ac addewidion lu ond ni weithredwyd arnynt,” meddai’r grwp yn y llythyr.
“Dwi’n siŵr eich bod yn cytuno bod y diffyg rheoliadau ar dai haf wedi creu argyfwng fydd yn tynghedu marwolaeth cymunedau.
“Ffactor sy’n dwysau’r argyfwng yw bod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw yn gwbl ddiamddiffyn ac o’r herwydd mewn perygl o ddiflannu am byth.
“Mae cadarnleoedd yr iaith Gymraeg bellach yn Ardaloedd o Sensitifrwydd Ieithyddol Arbennig ac mae angen deddfwriaeth a pholisïau cadarn i’w hamddiffyn.”
“Sarni dyfodol ein cymunedau”
“Byddai gweithredu ar letyau gwyliau yn unig yn gam gwag gan nad yw hynny yn datrys prif gatalydd yr argyfwng; tai haf,” meddai wedyn.
“Byddai colli cyfle euraidd i dreialu rheolaeth ar dai haf yn sarnu dyfodol ein cymunedau a’r Gymraeg.
“Byddwn yn croesawu cyfarfod rhithiol â chi i drafod ymhellach ac os yn bosib byddem yn falch iawn o’r cyfle i’ch croesawu i Ben Llŷn a’ch tywys o amgylch ein cymunedau.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.