Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn honni bod penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn “niweidiol i’r iaith Gymraeg”.

Bydd yr ysgol yn cael ei chau ar Ragfyr 31 eleni.

Fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd, sydd dan reolaeth Plaid Cymru, gymeradwyo’r cynnig yn unfrydol mewn cyfarfod ddydd Mawrth (Medi 28).

Roedd yr Adran Addysg wedi mynegi pryderon ynglŷn â niferoedd isel yr ysgol, gyda 76% o gapasiti’r ysgol yn wag.

Yn ogystal, fe wnaethon nhw sôn am gostau cynyddol ei chynnal, gyda phob disgybl yn costio oddeutu £17,404 yr un, o’i gymharu â chyfartaledd y sir o £4,198.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Cyngor yn “tanseilio eu polisïau tai ac iaith eu hunain trwy gefnu ar gymuned Abersoch”.

‘Siomedig’

“Rwy’n llwyr gefnogi’r rhai yn y gymuned sydd wedi addo parhau i frwydro yn erbyn cau Ysgol Abersoch,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Rwy’n siomedig o weld Plaid Cymru yn dilyn y llwybr hwn ar yr un pryd ag y mae’r Ceidwadwyr hefyd yn tynnu’r galon allan o gymunedau gwledig drwy gau ysgolion pentref ym Mhowys.

“Rwy’n cytuno hefyd â sylwadau Cymdeithas yr Iaith fod Cyngor Gwynedd yn tanseilio ei bolisïau iaith ei hun.

“Dyma’r union adeg y dylem fod yn ehangu addysg Gymraeg, nid ei lleihau.

“Byddwn yn annog Cabinet Gwynedd i oedi’r cau ar frys ac ailystyried yr opsiynau amgen.

“Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bryderon y cymunedau ac yn ymyrryd.”

Ysgol Abersoch i gau ym mis Rhagfyr eleni

Fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r penderfyniad yn unfrydol

Tynged Ysgol Abersoch i’w benderfynu

“Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac rydym yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd”

Darllenwch ragor:

Cau Ysgol Abersoch yn “fradychiad o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg”

“Mae’n frwydr ddyddiol i gadw’r iaith yn fyw oddi fewn i Abersoch,” meddai Cynghorydd Abersoch

Rhieni am wneud safiad yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol Abersoch

“Fydd yna ddim byd llawer ar ôl wedyn, a thrwy’r ysgol rydyn ni’n gallu ffrydio allan y Gymraeg”