Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno e-bresgripsiynau cyn gynted â phosibl.
Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru ers 15 mlynedd, ond mae’n cyhuddo’r llywodraeth o weithredu’n “ofnadwy o araf” yng Nghymru.
Mae’r Alban a Lloegr eisoes wedi gweld y dechnoleg yn cael ei defnyddio ac mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn fodd o wella diogelwch cleifion, lleihau costau cyffuriau, cynyddu’r mynediad at gofnodion presgripsiwn cleifion ynghyd â bod o gymorth i fferyllfeydd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi clustnodi £40m ar gyfer y cynllun.
‘Cleifion ar eu colled’
Ond yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae meddygon yn ei etholaeth yn Ynys Môn yn dweud eu bod yn teimlo embaras wrth siarad â’u cydweithwyr dros y ffin neu mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gan egluro eu bod yn parhau i weithio ar bapur yng Nghymru.
“I egluro maint y broblem, mae yna un meddyg roeddwn i’n siarad efo fo yn fy etholaeth i sy’n dweud ei fod o’n gorfod delio efo llaw efo 4,000 o repeat prescriptions, ac mae hynny’n golygu diffyg amser, wedyn, i ddelio efo cleifion a gweld cleifion,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Drwy gydol y pandemig yma, rydym ni wedi gweld sut mae gwasanaethau yn gallu symud yn gyflym a chyflwyno newidiadau yn gyflym, pan mae’r arweinyddiaeth a’r ewyllys gwleidyddol yn eu lle.
“Rydyn ni yn gallu creu gwasanaethau sydd yn gweddu i’n hanghenion ni. Ac mae gweithio ar bapur yn dal y gwasanaeth iechyd yn ôl. Mae staff wedi cael llond bol ac mae cleifion, ar ddiwedd y dydd, yn dioddef.”
Mae’n mynnu bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu yn hytrach na llusgo’u traed.
“Rydyn ni yn gallu creu gwasanaethau sydd yn gweddu i’n hanghenion ni.
“Ac mae gweithio ar bapur yn dal y gwasanaeth iechyd yn ôl. Mae staff wedi cael llond bol ac mae cleifion, ar ddiwedd y dydd, yn dioddef.”
‘Cymru ar ei hôl hi’
Ond yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan, mae angen sicrhau bod pobol yn deall sut i ddefnyddio’r dechnoleg.
Cyfeiria at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe fel enghraifft o ble mae’r dechnoleg yn cael ei defnyddio eisoes.
“Mae lot fawr o waith yn cael ei wneud yn yr ysbyty yn fanna. Dwi’n gofyn iddyn nhw, ‘Pam na allwch chi symud yn gyflymach?’, ac un o’r rhesymau maen nhw’n dweud wrthyf fi yw achos bod rhaid i chi ddal dwylo pobol drwy’r system,” meddai.
“Dwi yn cytuno ein bod ni ymhell y tu ôl i bethau. Roedd e’n eithaf sioc i fi weld pa mor bell tu ôl ydym ni o ran e-ragnodi. Dwi yn meddwl bod y gwaith – mae e’n waith technegol, mae’n waith lle mae angen i chi gael caniatâd i gael data.
“Gallaf i roi cadarnhad dyw e ddim yn mynd i gymryd pum mlynedd. Rŷn ni’n mynd i fynd yn gyflymach na hynny.
“Dwi rili am sicrhau ein bod ni’n mynd i fwrw ymlaen yn y maes yma, cyn gynted ag sy’n bosibl.”