Mae’r sefyllfa gyda phrinder petrol wedi sefydlogi rhyw gymaint yng ngogledd Cymru, yn ôl un ddynes sy’n gweithio mewn garej ger Bae Colwyn.
Daw hyn ar ôl i bobol fod yn ciwio ar hyd a lled y wlad am hydoedd er mwy’n llenwi’r tanc ddechrau’r wythnos, tra bod rhai gorsafoedd heb betrol na disel o gwbl.
Prinder gyrwyr lorïau yn achosi bylchau yng nghyflenwadau petrol sydd wedi bod yn gyfrifol am y diffyg cyflenwadau.
Roedd cyflenwyr blaenllaw – gan gynnwys BP, Esso a Shell – yn dweud y dylai’r pwysau ar garejys ddechrau lleddfu gan fod llawer o geir yn cario mwy o betrol na’r arfer.
A mynnodd Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, fod digon o danwydd ar gael.
Ac wedyn daeth y newyddion bod 150 o filwyr yn dechrau cael hyfforddiant i helpu i gludo tanwydd wrth i Boris Johnson ddweud ei fod yn paratoi i ddelio â phroblemau posib “hyd at y Nadolig a thu hwnt”.
“Ma’ hi’n llai prysur rŵan, ond roedd pethau’n wallgof ddechrau’r wythnos,” meddai Karen, sy’n gweithio yn Garej Princes ger Bae Colwyn.
“Dw i’n meddwl bod pobol wedi mynd i banig a dechrau prynu mwy nag oedd angen.
“Ond ydi, mae pethau i’w gweld yn setlo.”