Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r alwad i sicrhau bod staff arbenigol ar gael i helpu teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad.

Daw hyn wrth i rieni apelio am gynllun wrth iddyn nhw ddweud nad oes digon o gefnogaeth ar gael.

Mae cynllun eisoes ar y gweill yn yr Alban i helpu teuluoedd saith diwrnod yr wythnos am hyd at ddwy flynedd, ac mae galwadau i gyflwyno gwasanaeth tebyg yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau ar gyfer gwasanaethau profedigaeth.

‘Mae pob bywyd sy’n cael ei golli i hunanladdiad yn gwbl drasig’

Wrth ymateb, mae James Evans, AoS dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gynllun peilot i roi mwy o gefnogaeth i deuluoedd.

Mae’n galw am gynnlun tebyg i un yr Alban ac am sefydlu canolfannau argyfwng, yn ogystal â Deddf Iechyd Meddwl newydd.

“Mae pob bywyd sy’n cael ei golli i hunanladdiad yn gwbl drasig,” meddai.

“Does dim amheuaeth fod angen mwy o gefnogaeth i helpu i atal hunanladdiad, ond er bod sefydliadau gwych yng Nghymru, mae angen hefyd fod cefnogaeth gadarn yn ei lle i deuluoedd pan fo hunladdiadau, yn drist iawn, yn digwydd.

“Mae aelodau’r teulu’n dioddef poen a thrawma y tu hwnt i eiriau pan fo anwyliaid yn cyflawni hunanladdiad, ac mae’n amser sy’n ypsetio’n eithriadol, ond mae rhai yn teimlo nad oes digon o gefnogaeth iddyn nhw, os o gwbl, ac mae angen i hynny newid ar frys.

“Rwy’n ymbil ar weinidogion Llafur i ddechrau edrych ar gynllun peilot ar gyfer staff arbenigol i gefnogi teuluoedd saith diwrnod yr wythnos am hyd at ddwy flynedd, yn debyg i’r hyn sydd gan wledydd eraill yn eu lle.

“Ac mae hi hefyd yn hanfodol fod y Llywodraeth Cymru hon o dan arweiniad Llafur yn edrych ar greu canolfannau argyfwng 24/7 ar gyfer pobol sy’n cael argyfyngau iechyd meddwl a chyflwyno Deddf Iechyd Meddwl newydd a fydd, gobeithio, yn helpu i atal hunanladdiadau yn y lle cyntaf.”