Mae perchnogion newydd hen safle gwesty Abersoch, Providence Gate Group Holdings, wedi cyhoeddi y bydd gwaith adeiladu ar westy a datblygiad fflatiau gwerth £30m yn dechrau yn y gwanwyn.

Maen nhw’n dweud y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Mawrth ar y datblygiad gwerth £30m o’r enw Abersoch – gyda dyddiad cwblhau wedi’i bennu ar gyfer 2023.

Caeodd Gwesty Whitehouse yn 2004 a chafodd ei ddymchwel yn 2016.

Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â’r gweithredwr Bespoke Hotels.

Bydd gan y gwesty newydd 42 o ystafelloedd gwely, bwyty, bar gyda therasau ger y môr, a chyfleusterau megis campfa a sba gyda phwll nofio.

Yn ogystal â’r gwesty, bydd y datblygiad yn cynnwys 18 o fflatiau, wedi’u gosod ar y ddau lawr uchaf uwchben y gwesty.

“Rydym yn falch iawn o ddechrau gweithio ar y datblygiad cyffrous iawn hwn,” meddai Charlie Openshaw, cyfarwyddwr datblygu Providence Gate Group Holdings.

“Bydd yn dod â gwesty y mae mawr ei angen ym Mhen Llŷn ac yn agor yr ardal a Chymru i gynulleidfa ryngwladol.

“Nid yw’n gyfrinach bod y galw am lety gwyliau yn uchel drwy’r amser yn Abersoch.

“Mae’r datblygiad adeiladu newydd hwn yn seiliedig ar ôl troed hen westy Whitehouse ac mae ganddo’r fantais o ateb rhywfaint o’r galw hwnnw heb ddisodli neu addasu eiddo preswyl yn y dref.”

‘Y math o beth sydd ei angen’

“Os yw Pen Llyn am fanteisio ar y manteision economaidd a’r swyddi a ddaw yn sgil twristiaeth, ac eto heb ddisodli cymunedau lleol, yna dyma’r union fath o ddatblygiad adeiladu newydd o ansawdd uchel a chydymdeimladol y bydd ei angen,” meddai’r Cynghorydd Dewi Wyn Roberts.

“Bydd yr effaith ar yr economi leol, yn ystod y gwaith adeiladu, ac wedyn, pan fydd swyddi a gwariant twristiaeth cynyddu, o fudd mawr i’r gymuned.

“Bydd cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth o ansawdd uchel i bobol ifanc leol ym maes lletygarwch ar y cyd â cholegau lleol a chynlluniau prentisiaeth.”

‘Pob peth ar gael ar y farchnad’

Mae Rhys Tudur, ymgyrchydd Hawl i Fyw Adra, yn cydnabod bod gwesty a fflatiau yn llai niweidiol na bod mwy o ail dai yn cael eu gwerthu.

Fodd bynnag, mae’n rhybuddio bod y farchnad dai allan o reolaeth yn Abersoch a bod pobol leol yn methu fforddio tai yn y pentref.

Mae hefyd yn gofidio nad yw’r cwmni’n un lleol ac na fydd arian y cael ei fuddsoddi yn y gymuned.

“Mae o’n well na bod yno dai ar y farchnad,” meddai.

“Ond ar y funud, mae pob peth ar gael ar y farchnad, felly dydi o ddim yn fater o fod un yn llesol ar draul y llall.

“Dydy’r gwesty ddim yn mynd i wneud dim lles oherwydd does dim sicrwydd bod y pres yn dod yn ôl i bobol leol.

“Yn y Swistir, mae yna waharddiad ar be’ all bobol brynu fel ail dŷ.

“Alli di ddim prynu tŷ sydd heb ei gysylltu fel ail dŷ, alli di ddim prynu tŷ semi-detached fel ail dŷ.

“Dwyt ti ddim yn cael prynu ail dŷ os ydi hwnnw yn ail gartref yng ngwir ystyr y gair, ac mae hynny i weld yn deg.

“Be sydd gennon ni yn fan hyn ydi sefyllfa wedi ei wyrdroi lle dydan ni fel pobol leol yn methu dychmygu cael y math yma o dai… y tai sydd â mwyaf o ansawdd a maint.

“Rydan ni’n cael ein gwthio i dai fforddiadwy.

“Be ddylai ddigwydd ydi bod fflatiau yn cael eu cadw ar gyfer pobol sy’n mynd ar eu gwyliau.”