Mae’r penderfyniad ar statws cae ym mhentref Waunfawr yn Aberystwyth yn agosáu, wrth i gyfnod ymgynghori ddod i ben heddiw (dydd Iau, Medi 30).

Roedd Cyngor Ceredigion wedi derbyn cais i droi cae Erw Goch yn faes y pentref (village green) ar Chwefror 26 eleni.

Pe bai’r statws hwnnw’n cael ei roi, byddai’r tir yn cael ei amddiffyn rhag cael ei droi’n ddatblygiad tai o dan Ddeddf Tir Comin 2006.

Mae’n debyg bod cais wedi cael ei gyflwyno gan Wales and West Housing yn gynharach eleni er mwyn adeiladu 77 o dai ar y tir gyferbyn â chartref gofal dementia Hafod y Waun.

Cafodd y cais i amddiffyn Erw Goch, sy’n lleoliad hamdden poblogaidd, gefnogaeth gan Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, ac Elin Jones, yr Aelod o’r Senedd yno.

Roedd cyfnod ymgynghori dros yr haf i weld a oedd unrhyw un yn gwrthwynebu’r cynnig i droi’r cae yn faes y pentref, a daw’r cyfnod hwnnw i ben heddiw (dydd Iau, Medi 30).

Apêl trigolion

“Mae trigolion lleol wedi cael hawl i ddefnyddio cae Erw Goch at lawer o ddibenion hamdden ers blynyddoedd lawer heb ganiatâd, grym na chyfrinachedd,” meddai’r cais.

“Fe gafodd tîm pêl-droed Waun Wanderers ei sefydlu yn 1969 a’r cae oedd eu maes hyfforddi. Cafodd twrnament cyntaf y Waun Shield ei gynnal yma hefyd, gan ddechrau ym 1971 ac mae pyst y goliau yn dal i sefyll hyd heddiw.

“Yn fwy diweddar, mae trigolion lleol yr ardal yn parhau i ddefnyddio’r cae yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau fel cerdded, codi mwyar duon, hedfan barcud, cael picnic a cherdded cŵn.

“Mae hefyd yn amgylchedd diogel i blant Cefn Esgair ac Erw Goch chwarae heb orfod croesi ffyrdd prysur. Yn ogystal, mae’r cae hefyd wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt i naturiaethwyr hen ac ifanc ei fwynhau.”

Ysgrifennodd Ben Lake lythyr at Gyngor Ceredigion yn cefnogi’r cais.

“Cefais fy nharo gan dystiolaeth trigolion lleol, a oedd yn esbonio sut maen nhw’n gwneud defnydd llawn o’r cae at ddibenion hamdden ac ymarfer corff yn yr awyr agored,” meddai yn y llythyr.

“Fe wnaeth [trigolion] hefyd rannu adroddiadau hyfryd o’r llu o ddigwyddiadau cymunedol sydd wedi digwydd ar y cae dros y degawdau.”

Bydd Awdurdod Cofrestru Tir Comin y Cyngor nawr yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r broses benderfynu briodol, yn unol â’r gofynion statudol.