“Mae’r system yn llanast,” meddai Siân Gwenllian wrth egluro’r rheolau Covid-19 mewn ysgolion.

Mae Plaid Cymru yn galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch y rheolau hunanynysu ar gyfer ysgolion.

Dywed Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, fod y cyngor yn “ei wrthddweud ei hun” ac er bod achosion yn codi, dylid gwneud mwy i gael trefn ar y system, meddai.

“Dylai ysgolion fod yn lle diogel i’n plant ddysgu – nid yn fagwrfa i COVID-19,” meddai.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i bryderon cynyddol gan rieni, athrawon a disgyblion ynghylch y cyfraddau heintiau cynyddol mewn ysgolion.

“Yn ôl etholwyr, mae’r cyngor a roir iddynt naill ai’n ei wrthddweud ei hun neu’n hollol absennol.

“O ran diogelwch ein plant, mae’n rhyfeddol bod Llywodraeth Cymru yn methu â defnyddio’r mesurau sydd ar gael.

“Er enghraifft, byddai profi ffrindiau dosbarth a brodyr a chwiorydd sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achosion positif Covid yn helpu i nodi achosion positif asymptomatig a fyddai wedyn angen hunanynysu.”

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ddisgyblion sy’n profi’n bositif am Covid-19 hunanynysu gartref am ddeng niwrnod.

Mae gofyn i’r plentyn, neu ei rieni, roi manylion am gysylltiadau agos yn yr ysgol ac mewn mannau eraill.

Mae hefyd yn ofynnol i blant sy’n cael eu nodi fel cysylltiadau agos gymryd prawf PCR.

Oni bai bod y cysylltiadau agos yn profi’n bositif, fydd dim rhaid iddyn nhw hunanynysu y tymor hwn.

Cynnydd

Ers i ddisgyblion ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth ddechrau mis Medi, mae nifer yr achosion yng Nghymru wedi cynyddu.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, bu 9,500 o achosion ymhlith pobol o dan 20 oed, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n blant ysgol.

Yn ôl Siân Gwenllian, mae’n “rhyfeddol” bod Llywodraeth Cymru yn “methu â mynd i’r afael â phryder a phryderon cynyddol.”

Mae’r Grŵp Cynghori Gwyddonol Annibynnol ar gyfer Argyfyngau (SAGE) wedi ailgyhoeddi canllawiau ar gyfer ysgolion, sy’n cynnwys ailgyflwyno:

  • Cadw pellter cymdeithasol
  • Gorchuddion wyneb a phrofi
  • Ailddatgan yr angen am awyru effeithiol.

“Mae’n rhaid i’r llywodraeth sicrhau bod y system profi, olrhain, amddiffyn ar waith. Er gwaethaf ymdrechion staff rheng flaen, mae problemau ac anghysondebau mawr,” meddai Siân Gwenllian wedyn.

Mae beirniadaeth hefyd wedi bod dros yr wythnosau diwethaf am benderfyniad Llywodraeth Cymru ar beiriannau Osôn sy’n diheintio aer.

“Nid oes penderfyniad o hyd ar y £3.3m a glustnodwyd ar gyfer peiriannau osôn – dylai’r llywodraeth dynnu’r plwg ar y cynllun anffodus hwnnw a gwario arian cyhoeddus ar symud aer o gwmpas ac awyru ystafelloedd dosbarth,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.