Mae dyn wedi bod gerbron llys wedi’i gyhuddo o “lofruddiaeth ysglyfaethus a gafodd ei threfnu ymlaen llaw” mewn perthynas â marwolaeth Sabina Nessa.

Mae Koci Selamaj, 36, wedi’i gyhuddo o ymosod ar yr athrawes 28 oed wrth iddi gerdded trwy barc yn Kidbrooke yn ne-ddwyrain Llundain wrth iddi fynd i gwrdd â ffrind ar Fedi 17.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi cael ei tharo drosodd a throsodd ag arf dwy droedfedd o hyd cyn iddi gael ei chludo oddi yno’n anymwybodol.

Cafwyd hyd i’w chorff y diwrnod canlynol ac roedd hi wedi cael ei gorchuddio â dail.

Dydy archwiliad post-mortem ddim wedi dod i gasgliad ynghylch sut y bu farw, ond mae lle i gredu ei bod hi wedi dioddef “trais eithriadol”.

Cafodd Selamaj o Eastbourne ei arestio fore Sul (Medi 26) a’i gyhuddo’r diwrnod canlynol (dydd Llun, Medi 27).

Cafodd car Nissan Micra ei fediannu mewn stryd ryw hanner milltir i ffwrdd.

Gwrandawiad llys

Aeth Selamaj, sy’n hanu o Albania, gerbron y barnwr Mark Lucraft yn llys yr Old Bailey fore heddiw (dydd Iau, Medi 30).

Dywedodd yr erlynydd Alison Morgan fod yr ymosodiad yn un gan ddieithryn oedd “wedi cael ei drefnu ymlaen llaw ac yn un ysglyfaethus”.

Doedd dim awgrym fod yr ymosodwr honedig yn adnabod Sabina Nessa, meddai.

Yn ystod y gwrandawiad, siaradodd Selamaj trwy gyswllt fideo gyda chymorth cyfieithydd o garchar Wormwood Scrubs i gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni cyn i amserlen ar gyfer yr achos gael ei chyhoeddi.

Mae disgwyl iddo wadu’r cyhuddiad.

Bydd y gwrandawiad nesaf ar Ragfyr 16, ac mae Selamaj wedi’i gadw yn y ddalfa.