Mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi ymddiswyddo ar ôl cael ei feirniadu am sylwadau ynghylch llofruddiaeth Sarah Everard.

Wrth ymddiswyddo, dywedodd Philip Allott ei fod eisiau “adfer hyder yn y swyddfa”, gan ymddiheuro’n “ddiamod” am ei sylwadau.

Cafodd y Comisiynydd ei gyhuddo o roi bai ar y dioddefwr, ar ôl iddo ddweud y dylai menywod fod yn fwy “streetwise” ynglŷn â phwerau arestio’r heddlu.

Dywedodd Philip Allott, na ddylai Sarah Everard fod wedi “derbyn” cael ei ‘harestio’ gan Wayne Couzens, a wnaeth gymryd arna ei fod yn ei harestio er mwyn ei herwgipio, ei threisio a’i llofruddio.

Arweiniodd ei sylwadau at alwadau y dylai ymddiswyddo, gan gynnwys galwadau gan gyn-Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones.

Anhygoel

Mewn llythyr agored dywedodd nad oedd y sylwadau’n “adlewyrchu ei farn”, a’i fod wedi “cam-siarad”.

Yn y llythyr, dywedodd ei fod yn gwneud “y peth parchus”, yn dilyn cyfarfod gyda Phanel Trosedd a Thân Gogledd Swydd Efrog fore heddiw (14 Hydref).

Fe wnaeth y panel basio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo i barhau yn ei rôl.

“Yn dilyn cyfarfod y Panel Heddlu a Throsedd heddiw mae’n amlwg i mi y byddai’r dasg yn arbennig o anodd, os yw hi’n bosib o gwbl,” meddai Philip Allott wrth drafod parhau â’i rôl.

“Byddai’n cymryd amser hir a lot o adnoddau gan fy swyddfa a’r grwpiau niferus sy’n gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi menywod.

“Mae hwn yn amser sydd gan ddioddefwyr ddim mohono.

“Mae yna fenywod a merched yn Efrog a Gogledd Efrog yn dioddef yn sgil dynion heddiw.

Gwahaniaeth

“Mae angen i ddioddefwyr a grwpiau sy’n eu cefnogi nhw gael eu clywed.

“Ni allen nhw cael eu clywed os yw trafodaethau am fy nyfodol yn llenwi’r lle.

“Dyna pam fy mod i’n gwneud y peth parchus ac yn ymddiswyddo fel Comisiynydd Heddlu, Tân a Throsedd – er mwyn adfer hyder yn y swyddfa, a fydd bron yn amhosib i mi ei wneud, er mwyn caniatáu i leisiau dioddefwyr gael eu clywed yn glir heb gael eu hamharu gan yr helynt parhaus o’m cwmpas i.

“Fe wnes i ddod yn rhan o fywyd cyhoeddus oherwydd fy mod i eisiau gwneud gwahaniaeth. Dw i dal eisiau. Felly, dw i’n ymroi fy hun i wneud popeth allai fel unigolyn preifat i gefnogi grwpiau cefnogi dioddefwyr.

“Roedd yr addewid wnes i fel Comisiynydd Heddlu, Tân a Throsedd yn un gwir. Mae’n un y byddaf yn ei gadw.”

Galw ar Gomisiynydd Heddlu i ymddiswyddo yn sgil ei sylwadau ynghylch Sarah Everard

Dywedodd Philip Allott bod “angen i fenywod fod yn fwy streetwise” ynghylch pwerau arestio wedi dedfrydu Wayne Couzens