Mae 12 marwolaeth arall sy’n gysylltiedig â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr hyd at 9yb ddydd Mercher (13 Hydref).
Daw hyn â chyfanswm y marwolaethau i 5,990 yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 2,635 o achosion newydd o’r haint eu cofnodi hefyd, gan ddod â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 389,152.
Mae’r gyfradd achosion ymhlith bob 100,000 o bobol dros saith diwrnod wedi codi o 522.9 i 531.9.
Yn siroedd Torfaen (726.9), Bro Morgannwg (717.1) a Chaerdydd (698.3) y mae’r cyfraddau uchaf.
Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd isaf (354.7), gyda Blaenau Gwent (375) yn ail a Cheredigion (386.5) yn drydydd.