Roedd cael cyfle i berfformio yn ystod agoriad swyddogol y Chweched Senedd yn gyfle i roi platfform i bobl ddu yng Nghymru, meddai dwy gantores,

Bu Eadyth Crawford a Lily Beau yn perfformio cân arbennig a gyfansoddwyd gan y ddwy with i’r Frenhines Elizabeth, Y Tywysog Siarl a’r Dduges Camilla gael eu tywys drwy’r Senedd.

“Mae’n hollbwysig fod pobl ddu yn cael platfform mewn digwyddiadau fel hyn,” meddai Eadyth Crawford wrth Golwg 360.

“Roedd e’n neis ac mor bwysig i edrych rownd a gweld wynebau du yn yr ystafell.

“Mae angen newid, a pha le gwell i ddechrau na’r Senedd? Mae heddiw’n gyfle pwysig i ni fel menywod ifanc, ddu sy’n siarad Cymraeg ac sy’n rhan o’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru i fod yma, ac i fod yn weladwy.”

Yn ei haraith fe ddywedodd y Llywydd, Elin Jones fod y seremoni yn ddathliad o’r cymunedau amrywiol ledled Cymru.

Ysbrydoli

Yn ôl Lily Beau mae’r cyfle i berfformio wedi bod yn bwysig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gantorion ifanc ddu.

“Mae heddi yn ddiwrnod sydd â chymaint o sylw arno ac mae’n bwysig fod gyda ni’r cyfle i fynegi ein hunain trwy gerddoriaeth,” meddai Lily Beau.

“Mae’r ffaith bod plant ifanc du yn gallu edrych ar y digwyddiad heddi a gweld bod pobl yn edrych fel fi yn yr ystafell yma, boed hynny fel gwleidyddion neu berfformwyr mor bwysig.

“Mae’n danfon neges glir eu bod nhw’n gallu cyrraedd llefydd fel hyn [Senedd Cymru].”

Platfform

Roedd y gân bas a drwm yn ffrwyth llafur ‘Tân Cerdd’ sy’n brosiect i bobl ddod at ei gilydd wedi’r cyfnodau clo i greu cerddoriaeth.

“Nod Tân Cerdd yw hybu cerddoriaeth Mobo (cerddoriaeth o darddiad du). Felly dyma un o’n prosiectau cyntaf inni weithio arno gyda chymaint o waith ymchwil wedi eu rhoi fewn iddi,” meddai Eadyth Crawford.

“Mae hyn wedi bod yn lansiad mewn ffordd, y platfform mwyaf posib efallai.

“Fe wnaethon ni berfformio fersiwn strip back gan fod yr acwstig mor dda yn y Senedd ond mae’n gân am gryfder ac am symud ymlaen i’r dyfodol.”

“Gyda cherflun o Betty Campbell [cerflun o’r brifathrawes gyntaf du yng Ngymru] wedi ei chodi yng nghanol y ddinas yr wythnos ddiwethaf, mae’n llwyddo i ddangos fod pobl yn gweld hanes newydd i Gymru a bod yna newid ar y gweill ac mae hynny wedi bod yn long time coming.

Sesiwn newydd y Senedd yn gyfnod i “edrych tuag at y dyfodol”, medd Mark Drakeford

A’r Frenhines yn canmol pobol Cymru am eu hymdrechion yn ystod y pandemig, gan ddweud eu bod nhw’n “esiamplau disglair” o ysbryd y Cymry

Agoriad Swyddogol yn dangos bod cydraddoleb i’r Senedd medd y Llywydd, Elin Jones

Jacob Morris

“Y sgwrs (a’r Frenhines Elizabeth) yn ddifyr ar hyd y ffordd ond gwnaf ddim rhannu cynnwys y sgwrs honno yma gyda chi ar hyn o bryd”

‘Pobol gyffredin Cymru ddylai agor ein Senedd, nid aristocrat o wlad arall’

Gwern ab Arwel

Sawl un yn galw am sefydlu Gweriniaeth ar ôl gweld y Frenhines Elizabeth yn agor y Senedd