Mae’r person cyntaf i basio prawf dinasyddiaeth drwy’r Gymraeg, wedi datblygu technoleg newydd i ddysgu’r iaith.

Gellir defnyddio Hir-iaith Hi-lite i ddadansoddi geiriau ac ymadroddion, a bydd yn cynnig cyfieithiad ac egluro gwybodaeth ramadegol.

Mae Dr Rodolfo Piskorski yn ddysgu Portiwgaleg ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r syniad tu ôl i’r dechnoleg yw y bydd yn helpu dysgwyr i gael gwell gafael ar strwythur brawddegau a phatrymau gramadegol, gan gynnwys treiglo.

Gall ddod o hyd i dreigladau mewn brawddeg, ac yna esbonio pam bod pob gair yn treiglo.

Ar ôl symud i Gaerdydd o Frasil yn 2013, aeth ati i ddechrau dysgu Cymraeg yn 2015.

Bydd yn darllen eitemau newyddion ac erthyglau ar-lein yn aml er mwyn ymarfer a gwella ei Gymraeg, ac fel arfer mae’n dibynnu ar beiriannau cyfieithu i ddeall brawddegau’n well.

Y wefan

Caiff Hir-iaith Hi-lite ei ddisgrifio fel “cydymaith darllen i ddysgwyr Cymraeg, sy’n rhoi gramadeg gyntaf”.

Yn ôl y wefan, mae’n helpu er mwyn deall ystyr geiriau unigol, yn ogystal â’r ffordd y maen nhw’n gweithio’n ramadegol mewn brawddegau, eu gwahanol ffurfiau a threigladau, a pham eu bod nhw’n newid.

Mae’r dechnoleg yn gweithio fel geiriadur hefyd, gan fod storfa o dros hanner miliwn o eiriau arno.

Yn wahanol i eiriadur arferol, mae Hir-iaith yn cynnwys pob ffurf ar air – gan gynnwys treigliadau a rhediadau berfau, a geiriau lluosog.

Ynghyd â hynny, mae posib gwrando ar recordiad o eiriau er mwyn dysgu sut i’w hynganu.

Dadansoddi yn eu cyd-destun

Fel tiwtor iaith, roedd Dr Piskorski yn gwybod nad yw peiriannau cyfieithu yn “gwella” sgiliau iaith, ond yn hytrach yn rhoi “ateb” i frawddeg.

Yn ôl Dr Piskorski, mae’n “golygu na fyddwch chi fawr callach ynglŷn â pham yr ysgrifennwyd y frawddeg felly”.

Yn sgil hynny, penderfynodd ddatblygu Hir-iaith Hi-lite, sy’n dadansoddi geiriau yn eu cyd-destun ac yna’n dweud sut i’w defnyddio.

Mab Brasil, dinesydd Cymru

Portread o Rodolfo Piskorski