Gall siopwyr wneud taliadau o hyd at £100 â cherdyn digyswllt o heddiw (15 Hydref) ymlaen.

Mae’r cyfyngiad wedi codi o £45 i £100, ond efallai y bydd rhaid i rai peiriannau talu gael eu huwchraddio felly ni fydd yr opsiwn ar gael ymhob man yn syth.

Gallai gymryd “dyddiau, wythnosau, neu hyd yn oed misoedd” i rai busnesau wneud newidiadau, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain, felly bydd rhaid i gwsmeriaid wirio hynny gyda siopau unigol.

Dyma’r pumed tro i’r gwerth gael ei godi, ar ôl iddo gael ei osod ar £10 i ddechrau yn 2007.

Cafodd y cyfyngiad ei godi i £45 yn Ebrill 2020 ar ddechrau’r pandemig.

Fe wnaeth rhai siopau atal cwsmeriaid rhag talu ag arian parod yn ystod y pandemig, er bod ymchwil Banc Lloegr yn awgrymu bod y risg o ddal Covid-19 drwy gyffwrdd arian papur yn isel.

“Fwyfwy poblogaidd”

Rhwng Ionawr a Gorffennaf eleni, roedd 60% o’r taliadau â chardiau debyd a chredyd yn rhai digyswllt yn y Deyrnas Unedig, yn ôl UK Finance.

Yn 2016, dim ond 7% o’r holl daliadau, gan gynnwys rhai arian parod, gafodd eu gwneud gan ddefnyddio cardiau digyswllt.

Erbyn 2018, roedd hynny wedi codi i 19%, a chododd i 27% erbyn 2020.

“Mae’r cyfyngiad newydd o £100 yn cynnig dewis gwell i gwsmeriaid ynghylch sut maen nhw’n talu am bethau megis eu siopa wythnosol neu  betrol,” meddai David Postings, prif weithredwr UK Finance.

“Mae taliadau digyswllt wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, ac mae’r diwydiant taliadau wedi gweithio’n galed i sicrhau bod busnesau’n gallu cynnig y cyfyngiad uwch newydd i gwsmeriaid.”

Twyll

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan y Trysorlys a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a thrafod â’r sectorau manwerthu a bancio.

Er hynny, mae rhai wedi codi pryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai pobol gael eu twyllo.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol mae’r rheolau wedi cael eu newid i helpu’r diwydiant barhau i “ymateb i’r newid yn y ffyrdd mae pobol yn dewis talu”.

“Mae’r data sydd ar gael ynghylch twyll yn awgrymu nad oes yna gynnydd arwyddocaol wedi bod mewn twyll yn ymwneud â thaliadau digyswllt ers i’r diwydiant godi’r cyfyngiad i £45 yn Ebrill 2020,” meddai.