Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i fwcio profion PCR newydd ar ôl i rai canlyniadau fod yn anghywir mewn safle sy’n cael ei redeg gan y Llywodraeth.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Gorllewin Berkshire bod rhai o’r profion yn safle profi Newbury, sy’n cael ei redeg gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) , wedi dangos canlyniad anghywir o fod yn negatif am Covid-19.
Dywed y cyngor eu bod wedi derbyn adroddiadau gan drigolion lleol dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn a chywirdeb yn canlyniadau ar y safle, a’u bod nhw wedi cyfeirio eu “pryderon at yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn cynnal ymchwiliad pellach.”
“Mae’r DHSC bellach wedi cadarnhau y gallai nifer o safleoedd ar draws y wlad fod wedi’u heffeithio gan y mater yma, gan gynnwys yr un yn Newbury,” meddai’r datganiad.
Mae pobl oedd wedi cael canlyniad negatif i brawf PCR rhwng 3 a 12 Hydref yn cael eu hannog gan yr awdurdod lleol i gael prawf arall. Mae hynny’n cynnwys pobl sydd mewn cysylltiad agos a nhw.