Mae’n ymddangos bod y Frenhines wedi awgrymu bod ‘angen gwneud yn lle dweud” wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Gwnaeth ei sylwadau wrth siarad ag Elin Jones, Llywydd y Senedd, a Camilla, Duges Cernyw, wrth ymweld â Chaerdydd er mwyn agor sesiwn newydd y Senedd ddoe (14 Hydref).

Cafodd y sgwrs ei recordio mewn dau glip ar gamera ffôn, ac mae posib clywed rhannau o’r sgwrs.

Ar un pwynt, mae’n ymddangos bod y Frenhines yn trafod cynhadledd hinsawdd COP26, a gellir ei chlywed yn dweud ei bod hi dal ddim yn gwybod pwy fydd yn mynychu’r gynhadledd yng Nglasgow ar ddiwedd y mis.

“Dw i wedi bod yn clywed popeth am Cop… dw i dal ddim yn gwybod pwy sy’n dod,” meddai ar y clip.

Mewn clip arall, mae’n ymddangos bod y Frenhines yn dweud ei fod yn “ddiflas” pan “maen nhw’n siarad, ond dydyn nhw ddim yn gwneud” wrth gyfeirio at newid hinsawdd.

Wrth ei hateb, mae’n ymddangos bod Elin Jones yn cyfeirio at y Tywysog William, gan ddweud ei bod hi wedi bod yn ei wylio “ar y teledu fore heddiw yn dweud bod dim pwynt mynd i’r gofod, ein bod ni angen achub y ddaear”.

Yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd, bu Elin Jones yn tywys Y Frenhines yn ystod agoriad swyddogol y Chweched Senedd ddoe.

Meddai: “Roedd y sgwrs yn ddifyr ar hyd y ffordd ond gwnaf ddim rhannu cynnwys y sgwrs honno yma gyda chi ar hyn o bryd beth bynnag.”

Y gofod

Roedd y Tywysog William wedi rhybuddio cynhadledd Cop26 yn erbyn “siarad yn glyfar, geiriau clyfar ond dim digon o weithredu”.

“Mae’n hanfodol i Cop gyfathrebu’n glir iawn ac yn onest iawn ynghylch y problemau a beth fydd y datrysiadau, dw i’n meddwl,” meddai.

Mae William wedi beirniadu’r ras i fynd i’r gofod, gan ddweud bod angen i arbenigwyr gorau’r byd ganolbwyntio ar drio datrys problemau eu planed eu hunain yn lle.

Gwnaeth y sylwadau mewn cyfweliad gyda BBC Newscast, a chafon nhw eu darlledu ddiwrnod ar ôl i’r actor Star Trek William Shatner, fynd i’r gofod.

Yr actor 90 oed yw’r person hynaf i fynd i’r gofod ar ôl iddo adael Texas ddydd Mercher (13 Hydref) mewn roced a gafodd ei hadeiladu gan gwmni sylfaenydd Amazon, Jeff Bezos.

Agoriad Swyddogol yn dangos bod cydraddoleb i’r Senedd medd y Llywydd, Elin Jones

Jacob Morris

“Y sgwrs (a’r Frenhines Elizabeth) yn ddifyr ar hyd y ffordd ond gwnaf ddim rhannu cynnwys y sgwrs honno yma gyda chi ar hyn o bryd”

Agoriad swyddogol y Senedd: “Pwysig bod pobl ddu yn cael eu gweld” yn ôl cantorion ifanc

Bu Eadyth Crawford a Lily Beau yn perfformio cân arbennig a gyfansoddwyd gan y ddwy ar gyfer y Seremoni Agoriadol.

‘Pobol gyffredin Cymru ddylai agor ein Senedd, nid aristocrat o wlad arall’

Gwern ab Arwel

Sawl un yn galw am sefydlu Gweriniaeth ar ôl gweld y Frenhines Elizabeth yn agor y Senedd