Am y tro cyntaf erioed yn hanes y coleg, menywod yw mwyafrif y myfyrwyr ar y cwrs Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ôl academyddion, mae’r datblygiad yn “garreg filltir bwysig”, a daw’r newyddion ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched Gwledig y Cenhedloedd Unedig heddiw (15 Hydref).
Llynedd, dechreuodd y nifer uchaf erioed o fenywod ar gyrsiau amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dros y Deyrnas Unedig, mae’r diwydiant yn parhau i fod yn un sy’n cyflogi mwy o ddynion, ond mae cyfran y ffermwyr benywaidd yn codi.
“Hybu ac ysbrydoli”
Mae’n “wych” bod cymaint o ferched bellach yn astudio ac yn gweithio ym myd amaeth, meddai Bethany Harper, 22, sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio gradd Amaethyddiaeth yn Aberystwyth.
“Nid yn unig y gallwn ni, fenywod, wneud gwaith dynion, ond gallwn ni hefyd hybu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifainc,” meddai Bethany Harper, sy’n dod o Swydd Wilton.
“Dydw i ddim o gefndir ffermio, ond ces i fy magu o amgylch cŵn a cheffylau. Astudiais i amaethyddiaeth yn ystod fy TGAU ac roeddwn i wrth fy modd. Dyna roeddwn i am ei wneud wedyn, felly parheais i’w astudio yn y coleg.
“Yna treuliais i ddwy flynedd yn gweithio’n llawn amser ar ffermydd yn y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd. Roedd yn brofiad gwych, a rhoddodd gyfle i mi weld cymaint o wahanol bethau.
“Yn amlwg, fe wnaeth y pandemig effeithio ar bopeth, a siaradais i â fy rhieni am fynd i’r brifysgol. Dw i wrth fy modd yn gwneud y gwaith ymarferol o ffermio, ond mae cael gradd yn agor cyfleoedd i weithio mewn gyrfaoedd cysylltiedig eraill, megis rolau fel rheolwr fferm neu agronomegydd.
“Doeddwn i ddim eisiau colli’r cyfle i ddatblygu ymhellach, felly dywedais i: gadewch i mi fynd amdani. Mae Aberystwyth yn lle gwych i fyw, a dw i’n gallu gweithio ar fferm laeth wrth astudio. ”
“Grymus”
Yn ôl Anaïs Bunyan, sy’n dod o Luton ond ar ei hail flwyddyn yn astudio Amaethyddiaeth yn Aberystwyth hefyd, mae gweld cymaint o ferched eraill ar y cwrs, a menywod yn darlithio, yn “rymus”.
“Mae’n hollol anhygoel gweld cymaint o fenywod yn astudio amaethyddiaeth ac yn gweithio yn y maes,” meddai Anaïs Bunyan, sy’n 20 oed.
“Mae’n wych gweld mwy o fenywod yn dod i mewn i ddiwydiant sydd wedi’i ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol.
“Dyw ffermio ddim yn fy nheulu, ond dwi wastad wedi tyfu i fyny gyda chariad at anifeiliaid; roedd fy rhieni bob amser yn sôn wrtha i am bwysigrwydd parchu anifeiliaid a’r byd o’n cwmpas.
“Treuliais fy 2 flynedd yn y coleg yn astudio rheoli anifeiliaid, a ches i’r cyfle i weithio ochr yn ochr â ffrind ar fferm laeth ac yn araf tyfodd fy nghariad at ffermio.
“Er ei fod yn ddiwydiant nad oeddwn yn gwybod dim amdano ac nad oedd gen i unrhyw brofiad ynddo, y mwyaf o waith wnes i, a’r mwyaf o gyfrifoldeb ges i, y mwyaf yr oeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy modloni gan fy ngwaith.
“Doeddwn i ddim yn siŵr am fynd i’r brifysgol ar y dechrau, ond gwnaeth gweld golygfeydd syfrdanol Aberystwyth wneud imi feddwl i mi fy hun: os ga i’r graddau, af i, a dw i mor falch fy mod yma!
“Mae gweld cymaint o ferched eraill ar fy nghwrs, a menywod yn cynnal darlithoedd a dosbarthiadau, mor rymus ac yn bendant yn teimlo fel cam i’r cyfeiriad cywir ar gyfer y diwydiant amaethyddol.”
“Carreg filltir”
Mae Dr Pip Nicholas-Davies yn ddarlithydd Cynhyrchu Da Byw ac yn bennaeth cyfredol grŵp addysgu Amaethyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, a dywedodd y bydd y menywod hyn yn “cael effaith sylweddol ar y sector”.
“Mae hon yn garreg filltir bwysig i ni. Mae’n wych gweld cymaint mwy o fenywod ifanc yn astudio Amaethyddiaeth yn Aberystwyth sydd â gwir frwdfrydedd dros fwyd, ffermio a’r amgylchedd ac a fydd, heb amheuaeth, yn mynd ymlaen i gael effaith sylweddol ar y sector ehangach yn eu gyrfaoedd dewisol,” meddai Dr Pip Nicholas-Davies.
“Mae gradd mewn Amaethyddiaeth o Aberystwyth yn darparu sylfaen sgiliau eang i’r menywod hyn mewn rheoli busnes a’r amgylcheddol, maeth anifeiliaid, agronomeg, gwyddor pridd, dadansoddi systemau ac ymchwil ac mae’r cyfleoedd gyrfa y mae hyn yn eu cynnig iddynt yn ddiderfyn.”