Yng nghanol un o’r gwanwynau gwlypaf ar gof byw, mae undeb amaeth NFU Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r ffermwyr sydd dal i ddioddef oherwydd y tywydd gwael a chyflwr y tir.

Mae sawl ardal yng Nghymru wedi derbyn tua 200% o’r glaw y bydden nhw’n ei ddisgwyl yn erbyn cyfartaleddau tywydd tymor hir.

Dangosa cofnodion bod Cymru wedi profi’r ail gyfnod o wyth mis gwlypaf mewn 100 mlynedd, gan achosi aflonyddwch sylweddol i fusnesau ffermio.

Mae’r tywydd wedi’i gwneud hi’n anodd hau cnydau, gadael gwartheg allan ac mae wyna wedi bod yn heriol hefyd.

Mae hyn i gyd wedi arwain at gostau ychwanegol i ffermwyr, gyda rhai’n gorfod prynu porthiant a gwellt ychwanegol tra bod eu stoc dan do am gyfnodau hirach.

Eleni yn brofiad ‘dra-wahanol i’r arfer’

Un sydd wedi treulio’r cyfnod wyna adre yn helpu ar fferm ei deulu yw Ilan Hedd Jones.

Mae Ilan yn byw yng Nghaerdydd ond yn rhannu ei amser rhwng y brifddinas a fferm y teulu ger Llanuwchllyn er mwyn helpu ar y fferm pan fo angen.

“Ers blynyddoedd, dw i wedi bod yn ddigon lwcus i fedru dychwelyd adre i helpu gyda’r cyfnod wyna bob mis Mawrth ac Ebrill, ac er gwaetha’r oriau hir, wastad wrth fy modd,” meddai wrth golwg360.

“Mi roedd eleni’n dra gwahanol i’r arfer fodd bynnag.

“Roeddwn i adre am gwta fis, a chael mwynhau deuddydd o awyr las yn unig.

“Mi fu’n glawio, yn bwrw cenllysg neu’n niwlog weddill yr amser, ac yn naturiol, roedd y tywydd gwael yma, ddiwrnod ar ôl diwrnod, yn straen ychwanegol i bawb dros gyfnod prysuraf y flwyddyn i ffermwyr.

“Yn anffodus, mae rhywfaint o golledion yn annatod ar y fferm dros y cyfnod wyna, waeth beth ydi’r tywydd, ond fe wnaeth yr amodau gwlyb eithafol eleni waethygu’r sefyllfa i nifer.

“Dim ond hyn a hyn o oriau sydd mewn diwrnod, a gall ffermwr fod yn gofalu am ei ddiadell hyd eithaf ei allu a pharhau i wynebu colledion os ydy’r elfennau yn ein herbyn.

“Gyda mwd yn arwain at glwy’r bogail i rai ŵyn, ac ŵyn eraill yn fferru mewn caeau sy’n llawn dŵr, roedd yr amodau yn erbyn y defaid a’r ŵyn eleni, heb os.”

Mae’r cyfnod gwlyb yn sicr wedi arwain at gostau ychwanegol i’r fferm, meddai Ilan. Fel arfer, maen nhw’n wyna’u defaid mynydd Cymraeg tu allan ac yn wyna ychydig o ddefaid croes tu mewn.

“Bu’n rhaid cynyddu faint o ddwysfwyd yr ydym yn ei roi i’r defaid eleni oherwydd y tywydd gwael, yn ogystal â chadw’r defaid croes i mewn yn hirach na’r disgwyl, sydd eto’n arwain at gostau cynyddol y porthiant a’r gwellt,” eglura.

“Roedd costau ychwanegol hefyd yn dod o orfod uwchraddio teiars beiciau cwad, er mwyn hwyluso’r gwaith o fugeila mewn caeau sy’n sydyn droi’n fwd.”

Byddai Ilan yn croesawu strategaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu’r ffermwyr dros y cyfnod hwn a chyfnodau heriol y dyfodol.

“Byddai’n fanteisiol gweld cynllun fyddai’n cynnig cefnogaeth ariannol i ffermwyr wrth brynu porthiant, gwellt a dwysfwyd fel welwyd yn Iwerddon, gan fod y cyfnod gwlyb yma’n debygol o effeithio’r diwydiant am fisoedd i ddod.”

‘Rhaid gweithredu nawr’ ar gyfer ffermwyr y dyfodol

Mae Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig a Newid Hinsawdd, wedi trefnu uwchgynhadledd o gynrychiolwyr y maes fory (Ebrill 18) i ystyried effeithiau’r sefyllfa.

Y bwriad yw trin a thrafod pa ymyriadau a allai fod yn angenrheidiol “o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi i ddelio â’r amgylchiadau eithriadol y mae rhai ffermwyr yn eu hwynebu”, meddai.

“Mae’n amlwg bod newidiadau yn yr hinsawdd a thywydd sy’n gynyddol eithafol eisoes yn effeithio ar briddoedd, adnoddau dŵr a da byw Cymru, oherwydd glaw a llifogydd dwys ac estynedig yn ogystal â chyfnodau o sychder a thanau gwyllt yn yr haf.

“Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol ac mae’n rhaid i ni weithredu heddiw i addasu a lliniaru hyn.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd camau nawr i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.”

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r effaith y gallai’r tywydd gwlyb ei chael ar ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru, gan gynnwys trwy Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddol y Deyrnas Unedig, meddai.

Ceidwadwyr

Wrth ymateb i’r newydd am yr uwchgynhadledd, dywed Samuel Kurtz, llefarydd Materion Gwledig y Ceidwawyr Cymreig, ei fod yn falch bod Huw Irranca-Davies yn trefnu’r digwyddiad.

“Mae’r glaw parhaus a digynsail yn effeithio’n ddifrifol ar ffermwyr ac amaethyddiaeth Cymru,” meddai.

“Nid yw cnydau wedi’u plannu, mae silwair yn rhedeg yn isel, ac mae da byw wedi’u rhoi allan ar dir gwlyb.

“Felly, rwy’n falch bod fy llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf wedi derbyn yr ymateb hwn.

“Fodd bynnag, rhaid i Lafur wneud mwy, gan ddechrau gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Mae’r gaeaf hwn yn enghraifft o pam bod cymhorthdal ffermio mor hanfodol i ddiogelu ffermydd a chynhyrchu bwyd.

“Dylai hyn atgoffa Lywodraeth Cymru am yr angen i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn iawn i’n ffermwyr.”