Mae deddf newydd wedi cael ei phasio yn y Senedd i foderneiddio a symleiddio’r broses o ddatblygu prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

Bydd Bil Seilwaith (Cymru) yn cyflymu’r broses o gael caniatâd i ddatblygu seilwaith ar y tir a’r môr.

Fe fydd y math newydd o gydsyniad yn cael ei alw’n ‘Gydsyniad Seilwaith’, a bydd yn berthnasol ar gyfer Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, gwastraff a dŵr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y broses gydsynio yn creu rhagor o gysondeb a sicrwydd o ran gallu Cymru i sicrhau, datblygu a denu rhagor o fuddsoddiadau mewn seilwaith.

“Mae proses gydsynio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn cyflawni prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a’n huchelgeisiau sero-net,” meddai Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, wrth annerch y Senedd ddoe (Ebrill 16).

“Nid yn unig y bydd yn gwella cystadleurwydd Cymru fel lle deniadol ar gyfer buddsoddi a swyddi, bydd hefyd yn grymuso cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill drwy ddarparu cyfleoedd cadarn i gymryd rhan mewn proses agored a theg i helpu i gyfrannu at ddatblygiadau sy’n effeithio arnynt.”

Fe fydd y Bil yn “chwarae rôl allweddol wrth gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy” a chyrraedd sero-net, ychwanega’r llywodraeth.

Bydd dau bapur ymgynghori ar y mater yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y gwanwyn.