Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig yn y Senedd i gael gwared ar y cyfyngiadau 20m.y.a. a’r polisi i atal adeiladu ffyrdd newydd heddiw (Ebrill 17).

Cafodd pob cynllun mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru eu canslo yn sgil pryderon amgylcheddol y llynedd.

Roedd hynny’n cynnwys cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai i Ynys Môn, a thros 40 o brosiectau eraill.

Fodd bynnag, fis diwethaf dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n adeiladu ffyrdd newydd.

Dywedodd Ken Skates wrth BBC Cymru ei bod hi’n bosib y bydd cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai a ‘llwybr coch’ ar yr A494 yn Sir y Fflint yn cael eu trafod eto.

‘Diffyg buddsoddiad’

Fodd bynnag, dywed Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, bod Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn “gwthio eu hagenda gwrth-yrwyr” a bod y polisïau’n gorfodi gyrwyr o’u ceir.

“Mae pobol Cymru eisiau bwrw ymlaen â’u bywydau dyddiol, ac eto mae diffyg buddsoddiad Llafur mewn trafnidiaeth gyhoeddus, y gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd a’r terfynau cyflymder 20m.y.a. yn atal pobol rhag gwneud hyn.

“Yn y Senedd, byddaf yn galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i ddod â’u rhyfel yn erbyn gyrwyr i ben, cael gwared ar y gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd a chael gwared ar y terfynau cyflymder 20m.y.a. fel bod Cymru’n symud eto.”

Yn eu cynnig, mae’r Ceidwadwyr CYmreig yn nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Adolygu’u meini prawf adeiladu ffyrdd gyda’r bwriad o fwrw ymlaen â’r cynlluniau sydd wedi cael eu hanghofio.
  • Dadwneud Deddf Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru), a thargedu mwy wrth weithredu terfynau 20m.y.a.
  • Buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau’n fwy cystadleuol mewn cymhariaeth â theithio mewn ceir.

‘Gwrando yn flaenoriaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr Ysgrifennydd y Cabinet “wedi bod yn glir mai ei flaenoriaeth uniongyrchol ar 20mya yw gwrando”

“I gefnogi hyn, yn yr wythnosau nesaf bydd yn ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig, busnesau a chymunedau ledled Cymru.”