Mae Vaughan Gething wedi bod yn wynebu Cwestiynau’r Prif Weinidog am y tro cyntaf yn y Senedd heddiw (Ebrill 16).
Cafodd cyn-Weinidog yr Economi ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru fis diwethaf, cyn cael ei enwi’n Brif Weinidog Cymru, ar ôl curo Jeremy Miles yn y ras arweinyddol.
Yn ei sesiwn gyntaf wrth y llyw, cafodd ei holi am Fil Seilwaith (Cymru), sy’n cyflwyno proses symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith mawr, ariannu teg i Gymru, digartrefedd a’r gwasanaeth iechyd.
Cyfraniadau ariannol
Fe wnaeth Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei holi am y cyfraniadau ariannol dderbyniodd ymgyrch Vaughan Gething cyn yr etholiad.
Derbyniodd yr ymgyrch £200,000 gan Dauson Environmental Group, sy’n eiddo i ddyn sydd wedi cael ei ganfod yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith.
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog y bydd unrhyw arian sydd heb ei wario yn cael ei roi i Lafur Cymru.
Gofynnodd Andrew RT Davies pa fesurau y mae Vaughan Gething wedi’u cyflwyno nawr i sicrhau nad ydy hi dal i ymddangos fel ei bod hi’n bosib i bobol brynu dylanwad yn ei lywodraeth ac ar y cabinet.
“Dw i’n meddwl, pan fyddwch chi’n edrych ar le ydym ni a sut ydyn ni’n cadw at y cod gweinidogol a’r angen i wahanu buddion gweinidogol, etholaethol a phersonol, mae gan y llywodraeth hon a phob llywodraeth mae Llafur wedi’i harwain yng Nghymru record dda o wneud y peth cywir,” meddai Vaughan Gething.
Wrth ymateb ar ôl y sesiwn, dywed Andrew RT Davies bod y Prif Weinidog wedi methu cadarnhau os wnaeth ei ymgyrch fynd drwy’r holl arian.
“Roedd Vaughan Gething lawer mwy llwyddiannus yn codi arian i’w ymgyrch nag yn casglu cefnogaeth o fewn ei Grŵp Senedd, a bydd gan nifer o bobol gwestiynau am arwyddocâd yr arian yn ei fuddugoliaeth yn erbyn Jeremy Miles,” meddai.
“Canlyniad y frwydr honno sydd wedi penderfynu pwy sy’n Brif Weinidog nawr, ac mae cael tryloywder ynghylch y cyfraniadau hyn yn hollbwysig.”
‘Ariannu teg’
Cwestiwn am ariannu teg oedd gan Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, iddo, a gofynnodd sut y byddai’r Prif Weinidog yn sicrhau cyllid teg i Gymru pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Dw i’n edrych ymlaen at sgwrs barhaus gyda’r tîm cysgodol presennol yn San Steffan,” meddai Vaughan Gething wrth ymateb.
“Byddai hynny’n dda i Gymru ac i Brydain, cael dwy lywodraeth Llafur yn cydweithio er budd y bobol rydyn ni’n cael y fraint o’u gwasanaethu.
“Dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan i’r sgwrs honno, a sut rydyn ni’n llywodraethu a gwneud penderfyniadau ar gyfer y Gymru decach ac uchelgeisiol rydyn ni eisiau ei gweld.”
Cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth hefyd at y sylwadau wnaeth Vaughan Gething ddoe ynglŷn â’r toriadau i’r amgueddfa genedlaethol. Dywedodd yr amgueddfa dros y penwythnos eu bod nhw’n mynd i orfod cael gwared ar 90 o swyddi ac y gallai Amgueddfa Cymru Caerdydd gau.
Wrth ymateb, dywedodd Vaughan Gething eto bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “flaenoriaeth amlwg i bobol Cymru”, a bod gan Lywodraeth Cymru “benderfyniadau anodd”.
‘Dim mwy o fethu targedau’
Yn y cyfamser, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn sôn am eu blaenoriaethau i Vaughan Gething.
Mewn araith yn y Siambr, fe wnaeth Jane Dodds, arweinydd y blaid, ei annog i ddangos mwy o flaengarwch yn ei weledigaeth i Gymru a’i berswadio i fod yn fwy uchelgeisiol wrth fynd i’r afael â’r problemau yn y system iechyd.
“Mae pobol Cymru angen Prif Weinidog sy’n barod i, ac yn gallu, cyflwyno system iechyd well, ymateb yn bendant i amddiffyn ein hamgylchedd a chynnig cymorth i’n plant a’n teuluoedd tlotaf,” meddai Jane Dodds.
“Dim mwy o fethu targedau wrth ostwng amseroedd aros hir a phrinder staff cronig.
“Dim mwy o oedi wrth adfer gofal deintyddol.
“Dim mwy o rethreg wag am ‘Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd’ tra bo ofnau etholwyr am fwy o gloddio glo a llygredd afonydd yn cael eu hanwybyddu.”