Mae’n “warthus” bod Tata Steel wedi dweud y byddan nhw’n atal pecyn diswyddo gwell os yw gweithwyr yn mynd ar streic, yn ôl Aelod o’r Senedd.

Ysgrifennodd y cwmni at y staff ar ôl i aelodau undeb Unite bleidleisio o blaid gweithredu ddiwylliannol dros dorri 3,000 o swyddi.

Mae’r prif weithredwr Tata Steel, Rajesh Nair, wedi dweud na fyddai’r “pecyn ariannol mwyaf ffafriol” sydd erioed wedi’i gynnig yn cael ei dalu pe bai staff yn streicio.

Yn ôl Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, mae hyn yn “dangos parodrwydd y cwmni i danseilio hawl ddemocrataidd a chyfreithlon gweithwyr i weithredu’n ddiwydiannol”.

“Mae pwysau anferthol ar y gweithwr yma eisoes,” meddai.

“Mae ganddyn nhw hawl i geisio amddiffyn eu swyddi, eu diwydiant a dyfodol eu cymunedau.”

‘Ni fyddan nhw’n cael eu dychryn’

Ar hyn o bryd mae Tata Steel mewn ymgynghoriad ffurfiol 45 diwrnod gydag undebau Unite, Cymuned a GMB ynghylch cynigion i ailstrwythuro’r cwmni.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys cau’r ffwrneisi chwyth sy’n cynhyrchu haearn tawdd o fwyn ym Mhort Talbot eleni, a gosod ffwrnais arc drydan sy’n toddi dur sgrap.

Ers i Unite gyhoeddi eu bod am ofyn i’w haelodau bleidleisio dros gweithredu diwydiannol, mae Tata wedi mynd i “drafferth eithriadol” i geisio tanseilio hawl ei weithwyr a chreu diwylliant o ofn ymhlith gweithwyr, meddai’r undeb.

Yn ôl Unite, trwy gydol y broses bleidleisio mae’r cwmni wedi ceisio tanseilio gallu Unite i gynnig pleidlais i’w aelodau, ac wedi gwneud cwynion cyson a honiadau am y broses bleidleisio.

“Ers cyhoeddi ei gynlluniau, mae Tata wedi defnyddio’r bygythiad dro ar ôl tro i dorri pecynnau diswyddo gwell i geisio dychryn y gweithlu,” meddai Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Unite.

“Mae’r cwmni hefyd wedi targedu gweithwyr unigol ac wedi gwneud cyhuddiadau di-sail dros afreoleidd-dra pleidleisio i danseilio’r nifer sydd wedi pleidleisio.

“Er gwaethaf ymdrechion y cwmni, ac yn wyneb rhai o’r deddfau undebau llafur mwyaf llym yn y byd gorllewinol, pleidleisiodd y gweithwyr dros streicio.

“Maen nhw’n gwybod bod gan Tata ddewisiadau eraill wrth i Lafur addo buddsoddi £3 biliwn mewn dur yn y Deyrnas Unedig.

“Ni fyddan nhw’n cael eu dychryn, a gyda chefnogaeth lawn Unite, byddan nhw’n ymladd i wneud i’r cwmni newid ei gwrs.”

Y camau nesaf

Mae’r ymgynghoriad gyda’r cyflogwr yn parhau ac mae Unite yn parhau i ddadlau bod angen i’r cwmni wyrdroi ei benderfyniad i gau ei ffwrneisi chwyth.

Mae’r undeb nawr mewn trafodaethau gyda’i chynrychiolwyr ynglŷn â phryd y bydd gweithredu diwydiannol yn cael ei gyhoeddi.

Beth sydd wedi arwain at bleidlais o streicio ymhlith gweithwyr dur Port Talbot?

Dyma’r tro cyntaf ers dros 40 mlynedd i weithwyr dur Port Talbot fynd ar streic
Y ffwrnais yn y nos

Gweithwyr dur Port Talbot am streicio am y tro cyntaf ers deugain mlynedd

Mae gweithwyr dur sy’n aelodau o Uno’r Undeb wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol