Dywed Uno’r Undeb fod 1,500 o weithwyr dur Tata ym Mhort Talbot a Llanwern yng Nghasnewydd wedi pleidleisio o blaid streicio yn sgil cynlluniau ailstrwythuro’r cwmni.

Dyma’r tro cyntaf ers 40 mlynedd i weithwyr dur Port Talbot fynd ar streic.

Bydd bron i 3,000 o swyddi’n cael eu colli drwy’r Deyrnas Unedig yn sgil cynlluniau’r cwmni.

‘Pleidlais hanesyddol’

Yn ôl Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, mae’r penderfyniad i streicio’n “bleidlais hanesyddol”.

“Dydy gweithwyr dur heb bleidleisio i streicio fel hyn ers yr 1980au,” meddai.

“Mae’r bleidlais hon wedi digwydd er gwaethaf bygythiadau Tata, sef pe bai’r gweithwyr yn mynd ar steic y byddai eu pecynnau diswyddo gwell yn cael eu tynnu’n ôl.”

Dywed yr undeb eu bod nhw am helpu’r frwydr i achub y diwydiant dur yng Nghymru, ac y byddan nhw’n cyhoeddi dyddiadau’r streiciau yn fuan.

Dywed Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol yr undeb, “fod gan ein haelodau gefnogaeth lwyr eu hundeb wrth streicio i atal y toriadau hyn”, a bod yr undeb “yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd”.

Ewrop

Mae’r diwydiant yng ngwledydd eraill yn Ewrop yn parhau i ffynnu, ac yn ymwybodol fod gan ddur dyfodol llewyrchus.

Yn yr Iseldiroedd, mae Tata yn parhau ar agor ac mae swyddi’n cael eu diogelu, tra bo’r cwmni yn adeiladu ffwrnais arc trydan ac yn buddsoddi mewn technoleg hydrogen DRI.

Yn yr Almaen, mae un ffatri yn cynhyrchu mwy o ddur na’r holl ddiwydiant yn y Deyrnas Unedig gyda’i gilydd.

‘Dim syndod’

Does “dim syndod” fod gweithwyr dur yn streicio, yn ôl Plaid Cymru.

Mae Luke Fletcher a Sioned Williams, Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi datgan eu hundod gyda’r gweithwyr yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Daw hyn ar ôl i’r cwmni nodi eu bwriad i gau eu ffwrneisiau chwyth, gan roi tua 2,800 o swyddi yn y fantol.

“Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr gyda’r holl weithwyr ar yr adeg hon ac rydym yn barod i gefnogi pob gweithiwr,” meddai’r ddau mewn datganiad.

“Streicio yw’r peth olaf y mae unrhyw weithiwr eisiau ei wneud, ond daw’n angenrheidiol wrth wynebu’r dewis arall: dirywiad bwriadol diwydiant hanfodol ac adnodd strategol gan fuddiannau preifat.

“Mae Tata wedi gwneud penderfyniadau’n barhaus ac wedi arddangos ei fwriad ar gyfer dyfodol y ffatri er gwaethaf y cyfnod ymgynghori gyda’r undebau.

“Mae bygythiadau’r cwmni i ddiddymu cymorth ariannol hanfodol pe bai diswyddiadau yn digwydd yn destun pryder ac yn dangos parodrwydd y cwmni i beidio â pharchu democratiaeth gweithwyr – mae’r ffaith bod undebau a gweithwyr yn gwrthod cael eu dychryn a’u dylanwadu gan hyn i’w ganmol.

“Mae cymorth o £500m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwaith dur Port Talbot yn druenus o brin ochr yn ochr â’r symiau yn y biliynau y mae gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen yn ei fuddsoddi mewn datgarboneiddio.

“Mae Plaid Cymru yn gadarn ein barn bod yn rhaid i ni weld yr un lefelau o uchelgais yma os ydym o ddifrif am ddyfodol cynhyrchu dur gwyrdd, domestig.”