Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi £4m o gyllid i gefnogi gwaith hosbisau yng Nghymru.
Mae’r cyllid yn rhan o gam 3 adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal diwedd oes a gofal lliniarol.
Cafodd £4 miliwn ei ddarparu i gefnogi hosbisau yn 2023-24 hefyd.
Bydd yr arian yn sicrhau y bydd pobol yn dal i dderbyn gofal diwedd oes gan y rhwydwaith o hosbisau sydd yng Nghymru, sy’n dueddol o ddibynnu ar godi arian a rhoddion elusennol.
Ond mae codi arian wedi dod yn fwyfwy anodd yn sgil yr argyfwng costau byw, sy’n golygu bod hosbisau’n wynebu trafferthion wrth recriwtio a chadw staff, sy’n arwain rhai i ystyried eu dyfodol yn ofalus.
Bydd deuddeg hosbis yn derbyn cyfran o’r £4m i gynnal eu gwasanaethau, talu costau staff, a gwella’r gofal diwedd oes sy’n cael ei ddarparu i unigolion a’u teuluoedd.
Bydd mwy na £770,000 yn cael ei ddyrannu i hosbisau plant Cymru, Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan, sy’n cefnogi plant a phobol ifanc â chyflyrau sy’n byrhau neu’n peryglu eu bywydau.
‘Gofal hanfodol’
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Mae hosbisau a gwasanaethau gofal diwedd oes yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, ac maen nhw’n chwarae rhan bwysig iawn wrth gefnogi teuluoedd ar rai o’r adegau anoddaf eu bywydau,” meddai Eluned Morgan.
“Maen nhw hefyd yn cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddarparu gofal hanfodol i oddeutu 20,000 o bobol sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes bob blwyddyn.
“Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau y gallan nhw barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn a pharhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel ledled Cymru.”
‘Gofal arbenigol a chefnogaeth ddibynadwy’
“Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion a phlant sy’n wynebu salwch sy’n cyfyngu ar fywyd yn troi at hosbisau elusennol yng Nghymru i gael gofal arbenigol a chefnogaeth ddibynadwy, iddyn nhw a’u teuluoedd,” meddai Liz Booyse, cadeirydd Hosbisau Cymru a Phrif Weithredwr Hosbis y Ddinas.
“Mae Aelodau Hosbisau Cymru yn croesawu cydnabyddiaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r rôl hanfodol y mae hosbisau Cymru yn ei chwarae wrth ddarparu gofal lliniarol a gwasanaethau diwedd oes, mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Wrth i’r galw am ein gwasanaethau barhau i gynyddu, rydyn ni hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniant ariannu cynaliadwy gyda hosbisau Cymru.
“Mae’r ymrwymiad hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y gwasanaethau hanfodol yr ydyn ni’n eu darparu i gymunedau ar draws Cymru.”
“Croesawu”, ond “dyfodol ansicr” i hosbisau
“Rydyn ni’n croesawu cydnabyddiaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i hosbisau Cymru fel partneriaid gwerthfawr a chyfartal â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Matthew Brindley, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth Cymru ar gyfer Hospice UK.
“Bydd y cymorth hwn yn helpu i sicrhau y gall ein haelodau barhau i ddarparu gofal hanfodol i 20,000 o bobol sy’n cael eu heffeithio gan salwch angheuol bob blwyddyn, gan dynnu pwysau oddi ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Ond mae hosbisau’n dal i wynebu dyfodol ansicr gyda chymhlethdodau cynyddol o ran y gofal a phwysau costau byw.
“Mae’r arian hwn yn rhoi cefnogaeth a sicrwydd mawr ei angen ar hosbisau nawr, ond bydd angen i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd i ddatblygu datrysiad cyllid mwy cynaliadwy a theg sy’n cydnabod rôl partneriaeth hanfodol hosbisau Cymru wrth ddarparu gofal ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Galw am fodel ariannu “mwy cynaliadwy”
Tra bod Rachel Jones, Cyfarwyddwr Cyswllt Partneriaethau Strategol a Gwasanaethau Marie Curie Cymru, yn croesawu’r arian, mae’n dweud bod angen model ariannu mwy cynaliadwy ar yr elusen.
“Mae hosbisau elusennol yng Nghymru, fel Hosbis Marie Curie yng Nghaerdydd a’r Fro, yn bartneriaid hanfodol i’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach,” meddai.
“Maen nhw’n darparu gofal a chymorth hanfodol i unigolion ar ddiwedd eu oes a’r rhai sy’n agos atyn nhw, ac yn lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Fel elusen, rydym yn ffodus bod gennym gefnogwyr anhygoel sy’n helpu i godi arian hanfodol i’n galluogi i ddarparu gwasanaethau i gefnogi a gofalu am unigolion a’u hanwyliaid ledled Cymru, ond nid yw dibynnu ar yr haelioni hwn yn gynaliadwy ac nid ydym wedi ein hamddiffyn rhag effeithiau’r argyfwng costau byw.
“Gyda mwy o bobol yn debygol o fod angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn gallu parhau i archwilio’r hyn sydd ei angen i sefydlu model ariannu gwirioneddol gynaliadwy i sicrhau bod pobol yn cael y gofal lliniarol a’r gofal diwedd oes gorau posibl.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes ar hyn.”