Mae mwy o bobol ifanc bellach yn dewis teithio ar ôl gadael y brifysgol, wrth sylweddoli nad mynd i’r brifysgol yw’r garreg gamu orau i bawb o reidrwydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae arolygon wedi dangos bod mwy o bobol ifanc yn gohirio’u cynlluniau i deithio tan ar ôl iddyn nhw orffen eu hastudiaethau, ac mae hanner oedolion gwledydd Prydain o’r farn bod rhagolygon swyddi’n gwella wrth i fwy o bobol gyfuno teithio a dysgu.

Ond mae 71% ohonyn nhw’n dal i fentro i’r byd gwaith ar unwaith, serch hynny.

Technoleg yw’r diwydiant mwyaf poblogaidd ymysg graddedigion, sy’n adlewyrchiad efallai o’r globaleiddio rydym yn ei weld yn ddyddiol o’n cwmpas.

O ran y cwmnïau penodol, Google yw’r cyflogwr mwyaf poblogaidd, yn ôl arolwg y ‘UK 300’ gan Cibyl. Yn ail mae Amazon, a’r BBC yn drydydd.

Problemau?

Mae’r economi’n wynebu problemau a heriau byd-eang digynsail, gan gynnwys chwyddiant cynyddol, aflonyddwch yn y gadwyn gyflenwi, a thensiynau gwleidyddol.

Mae arolwg Grŵp Gwasanaethau’r Gweithlu yn dangos bod 42% o gyflogwyr y Deyrnas Unedig yn bwriadu ehangu eu gweithlu eleni.

Eisoes, mae galw cynyddol yn y diwydiannau cyllid, technoleg gwybodaeth a chyfathrebiadau am raddedigion.

Mae Bethan Evans, sy’n 21 oed ac yn dod o Abertawe, wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, ond yn ei chael hi’n anodd cael hyd i waith.

“Gwnes i geisio am swydd fel Therapydd Galwedigaethol yma yn Abertawe, ond dim ond un rôl oedd ar gael yma,” meddai wrth golwg360.

“Yn ffodus, gwnes i gael y penodiad, neu fyddwn i wedi gorfod chwilio am swydd mewn ardal hollol wahanol, i ffwrdd o gartref.

“Fyddai hyn ddim yn gyfleus o gwbl i mi.”

Rhwng Medi 2022 a Medi 2023, fe gynyddodd nifer y staff sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru gan 4% i 110,421.

Fodd bynnag, yn 2023, cyhoeddodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr y Cynllun Gweithlu Hirdymor.

I raddau helaeth, ymateb ydy hwn i ofidiau sydd gan weithwyr iechyd ifanc fel Bethan Evans.

Mae’n gyfle i “roi staff ar sylfaen gynaliadwy am y blynyddoedd i ddod”, yn ôl Amanda Pritchard, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.

“Yn hollbwysig, byddai’r cynllun yma hefyd yn sicrhau bod yna ddewis gyrfa yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n addas i bawb nawr, ac yn y dyfodol.”

Felly, ai gadael Cymru a mynd i weithio yn Lloegr fydd y realiti i nifer o bobol ifanc, yn enwedig y rhai sy’n ceisio am swydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?

Mae diffyg rolau penodol mewn mannau yn dileu’r dewis i bobol ifanc ddychwelyd adref i weithio ar ôl gorffen yn y brifysgol – rhywbeth sy’n angenrheidiol i lawer, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw.

Ceisiadau a dyfodiad AI

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod cyflogwyr yn ei chael hi’n heriol gwahaniaethu rhwng ceisiadau swyddi go iawn a cheisiadau AI (deallusrwydd artiffisial).

Yn ôl y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr, mae dros 91% o geisiadau bellach yn cael eu creu gan feddalwedd fel ChatGPT, rhaglen deallusrwydd artiffisial, ac felly maen nhw’n derbyn llawer iawn o geisiadau sy’n debyg iawn i’w gilydd.

Felly mae gwneud blwyddyn o waith mewn diwydiant fel rhan o radd yn gallu gwneud i rai ymgeiswyr sefyll allan uwchlaw eraill.

Mae’n fantais enfawr i gyflogadwyedd, gydag 85% o bobol sydd wedi gwneud blwyddyn ddiwydiannol yn cael eu cyflogi, o gymharu â 74.3% ymhlith pobol sydd heb wneud.

Cymorth

Felly, sut mae prifysgolion yn helpu eu myfyrwyr?

Mae gan bron pob prifysgol Wasanaeth Gyrfaoedd, a’u pwrpas yw defnyddio’u rhwydweithiau i gysylltu myfyrwyr gyda chyflogwyr, helpu myfyrwyr ddod o hyd i swyddi rhan amser, neu hyd yn oed rywfaint o brofiad gwaith i helpu gwella CV.

Mae 63% o fyfyrwyr yn troi at wasanaethau yn eu prifysgolion am gymorth i gael lleoliadau profiad gwaith, tra bod tua 50% o fyfyrwyr heb hyd yn oed ddefnyddio’u gwasanaethau gyrfaoedd.

Mae gan Brifysgol Abertawe Academi Cyflogadwyedd, lle mae grantiau ar gael i gymdeithasau myfyrwyr i gynnal digwyddiadau sy’n ymgysylltu gyda chyflogwyr.

Ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae systemau yn eu lle i sicrhau bod modd datblygu sgiliau moesegol, digidol, entrepreneuriaidd a byd-eang, trwy eu cysylltiadau gyda’r diwydiant.